Cân neu Ddwy/Salem
Gwedd
← Hwyrnos | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Steil |
SALEM
(Y darlun gan Curnow Vosper)
Siân Owen Ty'n-y-Fawnog yw'r hen wraig
A wisga'r siôl a'i hurddas benthyg, mwy,
Hen wreigan seml a chadarn fel y graig
Uwch Cefncymerau, lle'r addolant hwy,
Y cwmni gwledig ar ddiarffordd hynt,—
Siân Owen, Wiliam Siôn ac Owen Siôn,
A Robat Wilias o Gae'r Meddyg gynt,
A Laura Ty'n-y-Buarth fwyn ei thôn.
Mi gwrddaf wybodusion llawer byd,
Y prysur-bwysig, y ceffylau blaen,
A chlychau’u harnes, heb un eiliad fud,
Yn gyrru powld, fawreddog sŵn ar daen.
Mor felys wedyn yw eich byd di-sôn,
Siân Owen Ty'n-y-Fawnog, Wiliam Siôn!