Cân neu Ddwy/Steil
Gwedd
← Salem | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Hen Weinidog |
STEIL
("Diwrnod Marchnad":
darlun arall o'r un hen wraig[1])
Yr oedd hi'n braf cael bod mewn steil
Am dro, Siân Owen, ond ni ddeil
Y siôl i'w gwisgo Sul a gwaith,
Na’r sgyrt o frethyn du ychwaith.
Yr oedd hi'n brafiach ffordd i lun
Drwy'r gegin, yn dy siôl dy hun,
Amdanat farclod llwydlas, glân,
A’th glocsiau am dy draed, 'r hen Siân.
Nid dweud yr wyf mai urddas ffôl
Oedd urddas benthyg, crand, y siôl.
Ond pam y syllit ti mor daer,
Mewn anesmwythyd, yr hen chwaer?
Yr wyf fi’n falch fod cysgod gwên
Ar d’wyneb yn y gegin hen,
A'th fod di'n llonnach yn y llun
Ohonot yn dy siôl dy hun.
Nodiadau
[golygu]- ↑ Sian Owen Salem