Cân neu Ddwy/Emyn
Gwedd
← Hen Weinidog | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Bethesda'r Fro |
EMYN
Tydi, a roddaist liw i'r wawr
A hud i'r machlud mwyn,
Tydi, a luniaist gerdd a sawr
Y gwanwyn yn y llwyn,
O, cadw ni rhag colli'r hud,
Sydd heddiw'n crwydro drwy'r holl fyd.
Tydi, a luniaist gân i'r nant
A’i su i'r goedwig werdd,
Tydi, a roist i'r awel dant
Ac i'r ehedydd gerdd,
O, cadw ni rhag dyfod dydd
Na yrr ein calon gân yn rhydd.
Tydi, a glywaist lithriad traed
Ar ffordd Calfaria gynt,
Tydi, a welaist ddafnau gwaed
Y Gŵr ar ddieithr hynt,
O, cadw ni rhag dyfod oes
Heb goron ddrain na chur na chroes.