Cân neu Ddwy/Bethesda'r Fro
Gwedd
← Emyn | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Thomas William |
BETHESDA'R FRO
Fe fu'n draddodiad yn y Fro
Fod gwyngalch yn ei ddychryn O.
Gwyngalchwyd yntau, 'r hen Dŷ Cwrdd,
I gadw'r Diawl ymhell i ffwrdd.
A rhoddwyd simnai ynddo; i'r mwg
Gael llenwi ffroenau y Gŵr Drwg.
Nid ydyw'r gwyngalch heddiw’n lân
Fel 'r oedd o gynt, ac nid oes tân
Ar aelwyd fach yr hen Dŷ Cwrdd,
Na dim i gadw'r Diawl i ffwrdd.