Cân neu Ddwy/Thomas William

Oddi ar Wicidestun
Bethesda'r Fro Cân neu Ddwy

gan T Rowland Hughes

Y Tyddyn

Erys dy gapel gwyngalch yn y Fro,
Emynydd llwyd, ac wrth ei gadarn fur
Dy feddrod hardd, er dyfod rhyfedd dro
Ar fyd o'i gylch a chodi o faen a dur
Gartrefi'r plenau lle bu'r ychen gynt
Yn denu'r adar i haelioni'r gŵys
A'r gyrwyr a'u tribannau yn y gwynt.
Erys dy gapel pendrist yma'n ddwys.

Pa hyd, ni wyddom. Darfodedig yw
Y maen cadarnaf a'r caletaf derw;
A phe disgynnai'r bom anialwch gwyw
A fai'n Nhrefflemin fwyn a'r Fro bob erw.
Dim ond dy eiriau ar adenydd chwim,
"Adenydd colomen," ni fenid ddim.