Cân neu Ddwy/Y Tyddyn

Oddi ar Wicidestun
Thomas William Cân neu Ddwy

gan T Rowland Hughes

Gwanwyn

Y TYDDYN
(Efelychiad o ddarn gan yr Americanwr
E. Arlington Robinson
)

Maen' hw wedi mynd i gyd
O'r tyddyn ar fin y llyn.
'D oes 'na ddim o'u hôl, dim byd.

Oedd, yr oedd o'n lle bach clyd
A'i waliau mor lân, mor wyn.
Maen' hw wedi mynd i gyd.

Er iddyn' hw' 'i ddal o c'yd
A'r caeau wrth droed y bryn,
'D oes 'na ddim o'u hôl, dim byd.

Mae'r tyddyn yn noeth a mud
A'i dipyn o ardd yn chwyn.
Maen' hw wedi mynd i gyd.

Mae'n wag ers ’wn i ddim p'ryd
A thyllau 'mhob ffenestr syn.
'D oes ’na ddim o'u hôl, dim byd.

Mae'n drist 'i weld o o hyd
Yn unig a llwm fel hyn.
Maen' hw' wedi mynd i gyd:
'D oes 'na ddim o'u hôl, dim byd.