Cân neu Ddwy/Manion
Gwedd
← Ras | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Yr Hen Delynor |
MANION
EIRA
Mae'n wynnach na'r rhosyn,
Ysgafnach 'i hynt
Na dafnau o ewyn
Ar wyneb y gwynt.
Ond crynu mae'r adar ar glawdd a tho,
Heb un yn barddoni amdano fo.
BUGAIL
Neithiwr trois yng ngolau'r lleuad
Heibio i'r fynwent fach a'i hedd,
Ac mi welwn ryw hen ddafad
Wrthi’n pori ar ei fedd.
AREITHIWR
Llais Twm Penwaig a'i 'stumiau a'i floedd:
Ond 'r oedd penwaig ffres gan Twm, on’d oedd?
NI
Ia, rhai go ryfadd ydyn’ hw', yntê,
Y fo a hi,
A phawb drwy'r stryd ’ma, ac yn wir, drwy'r lle—
Ond chi a fi.
WEDI DARLLEN ADOLYGIAD
Owns o siag, pwys o siwgwr...
Ond pacio nwyd breuddwydiwr
Swydd diclis oedd, daclus ŵr.
WEL, WIR
Breuddwydiodd John Jones iddo siarad ar goedd
Y Seiat am noson gyfan.
A phan ddeffroes, yn y Seiat yr oedd
Yn stwnsian.