Cân neu Ddwy/Ras
← O, Dirion Dir | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Manion |
RAS
Dau yn unig oedd yn y ras,
Sammy Rose Bank a Ned Tŷ Glas.
Traed chwarter-i-dri
Ned Bach aeth â hi,
Er 'u bod nhw mewn clocsia'
A thylla' yn y gwadna',
Ac er bod 'i goesa', druan o Ned,
Mewn hen drowsus i'w dad, un melfaréd,
A hogyn Rose Bank
Yn goblyn o lanc
Efo'i 'sana'-beic
A'i esgidia' speic.
Pedwerydd oedd Sam.
"Y? Be'?
Ped-? Pe-?
Yr hen lolyn, gwranda,
Dos yn d'ôl i'r dechra'.
Pwy ddwedaist ti gynna' oedd yn y ras?”
Dim ond Sammy Rose Bank a Ned Tŷ Glas.
"Dau. Dim ond dau i gyd.
Felly, sut yn y byd ..."
Yn y byd, be'?
"Y mae 'na le
I stwnsian am drydydd,
Heb sôn am bedwerydd.
'D oedd ond dau yn rhedag ..."
'Waeth hyn'na na chwanag,
Pedwerydd oedd Sam.
"Ond gwranda, go fflam,
Dau yn unig oedd yn y ras...
Sammy Rose Bank a Ned Ty Glas.
"Ia, ia, mi wn i hynny,
Sammy Rose Bank a Ned, ac felly ...
Pedwerydd oedd Sam.
"Ond gwranda, y dyn,
'Wna dau a dim un
Ddim pedwar
Un amsar ..."
Pedwerydd oedd Sam.
'R oedd 'i dad a'i fam
Yn rhedag bob cam
Wrth ochor 'u Sam.
'R oedd 'i Dadi a'i Fami
Fel arfer efo Sarni,
A phedwerydd oedd Sam.