Cân neu Ddwy/O, Dirion Dir

Oddi ar Wicidestun
O'r Gongl Cân neu Ddwy

gan T Rowland Hughes

Ras

O, DIRION DIR

Meddai brân ar ysgwydd y bwgan brain:
"Pam nad ei di i ffwrdd ar bnawn mor ffain
I'r hwyl sy'n Nhre Hoen ac i'r sioe am swae
Yn lle gwylio'n flin ryw gomin o gae?"

Ebe yntau'n chwyrn: "Bu fy nhaid a’m nain
A'u teidiau a'u neiniau hwythau rhag brain
Yn gwarchod Ty'n Lôn a'i dirion dir
O oes i oes. Mynd i'r dre' 'na, wir!

"Yma mae beddau fy nhadau. Fan hyn
Y clywais i'r mawl o gapel y Bryn,
Y dysgais i garu pob erw o dir
Yr henfro fwyn hardd. Mynd i'r dre' 'na, wir!

"A pheth arall"—wedi cysidro plwc—
"'Does gen' i ddim modd i drio fy lwc
Yn ffwndwr y ffair sy wrth draeth y dre
A jolihoetio a llancio drwy'r lle."

"Os byddai sofran fach felan o fudd ..."
"Y gwir ydi'r gwir, 'fu gen' i'n fy nydd
'R un sentan am swae, ddim dima', myn dyn,
Imi dorri cyt a'm mwynhau fy hun."

"Os byddai chweugian ..."
"'Nid 'sofran' glywais i
Ryw funud yn ôl ar dy dafod di?"
"O, wrth gwrs, cweit, cweit, ni thynnwn yn groes.
'Does dim modd twyllo hen Gymro, nac oes?"

*   *   *


Pan ddychwelodd yn hwyr, 'r oedd brain y byd
Yn clwydo'n foliog hyd gloddiau'r cae ŷd.
"Y taclau barus! Wel, brensiach y brain!"
A dawnsiodd fel dyn yn droednoeth mewn drain.

"I beg your pardon!" meddai pennaeth y set.
"O, sorri," 'be yntau, gan gyffwrdd ei het.