Cân neu Ddwy/O'r Gongl
← Pe Bawn I | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
O, Dirion Dir |
O'R GONGL
A ydi'r Gwanwyn yn crwydro'r gweunydd
A galw'i flodau i lannau 'r lonydd?
A deifl y nos o'r rhosydd—chwiban glir,
Daer, y gylfinir i'r dirgel fynydd?
A chwery o hyd glychau'r ehedydd
Uwch hen dawelwch a hun y dolydd?
Ar wyn antur y nentydd—a rydd clau
Emau, filiynau, eu gwefr aflonydd?
A ydi'r grug yn gawod ar greigiau
Hen yn Eifionnydd a'i dirion fannau?
A bau Harlech yn berlau—ac aur cryn,
A'i neidr o ewyn yn gain fodrwyau?
A'r clogwyn a'i nerth yn wyllt brydferthwch
A'r aer yn win hyd eithin Cwm Dwythwch?
A than y fron dirionwch-gwaun a gwig,
A hedd Dinorwig yn wyrdd dynerwch?
A ydi'r Gwanwyn ...?
'Hed yr ugeiniau
Olwyd, anghynnes, ddiles feddyliau
Yn chwim adar rhwng barrau’u—cawell hwy
I Fôn, i Fynwy, i addfwyn fannau
Yn Arfon ac Eifionnydd
A’u llwybrau dan gangau gwŷdd,
I hydref hen bentrefydd
Yn Llŷn ar derfyn y dydd.
Yn daer heno, fel adar Rhiannon,
'Hedant yn gôr wrth y môr ym Meirion
Ac aur fachlud Ardudwy
Ar lwydwyll eu hesgyll hwy.