Cân neu Ddwy/Pe Bawn I
Gwedd
← Llan-y-Dŵr | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
O'r Gongl |
PE BAWN I...
Pe bawn i yn artist mi dynnwn lun
Rhyfeddod y machlud dros benrhyn Llŷn:
Uwchmynydd a'i graig yn borffor fin nos
A bae Aberdaron yn aur a rhos.
Dan Drwyn-y-Penrhyn, a'r wylan a'i chri
Yn troelli uwchben, mi eisteddwn i
Nosweithiau hirion nes llithio pob lliw
O Greigiau Gwylan a'r tonnau a'r rhiw.
Ac yna rhown lwybyr o berlau drud
Dros derfysg y Swnt i Ynys yr Hud:
Mewn llafn o fachlud ym mhellter y llun
Ddirgelwch llwydlas yr Ynys ei hun.
“Ond 'wêl neb mo Enlli o fin y lli."
"Pe bawn i yn artist", ddywedais i.