Cân neu Ddwy/Rhyfel
Gwedd
← Yr Hen Fyd | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Y Sioe |
RHYFEL
Heddiw, diddanwch yr hardd dyddynnod,
Yfory, dannedd yng ngyddfau'r dinod
A thaenu ar fythynnod—flamau'r dur
Didostur yn rhu'r anfad eryrod,
Gan hoelio'r fam a'i chur dan falurion
Safnrhwth y bwth a fu'n llawn gobeithion,
A rhoi gwaed eu hergydion—hyd y bau,
A bwrw i'r muriau wynebau'r meirwon.