Cân neu Ddwy/Yr Hen Fyd
Gwedd
← Y Plên | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Rhyfel → |
YR HEN FYD
("The old world is dead": Anthony Eden)
Bu farw'r byd a wyddem, meddant hwy.
Mae rhodres yn ei fedd,
ac ni bydd rhagrith mwy.
Fe droes eiddigedd ei annhyner wedd
i'r wal, a threngi’n boenau i gyd
yn sŵn y plênau
a rhyferthwy'r peiriannau
sy'n llunio'r newydd fyd.
Mae wyneb daear fel y nef
o ganu'n iach i'r Stiward Bach
a'i holl daeogrwydd pwysig ef.
(Ni thyciodd llyfu-llaw yr olaf tro:
'r oedd Angau yn rhy gall i'w driciau o.)
Fe doddir trais a gormes a gwneud-pres
yn ffwrnais fawr y rhyfel, meddant hwy:
fe dawdd pob llid, pob celwydd, yn y gwres,
ac ni bydd wylo mwy.
Bu farw'r byd a wyddem a'i holl naws,
a throes yr Wyddfa, meddant hwy, yn gaws.