Cân neu Ddwy/Y Plên
Gwedd
← Y Di-waith | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Yr Hen Fyd → |
Y PLÊN
Rhywle,
yn uchel uchel rhwng y nos a'r sêr,
uwch lledrith y cymylau gwawn,
fe daena plên ei sŵn.
I mi a thi a thithau, dim ond grŵn
cyfeillgar, cynefindra lleddf,
a'n clust yn ddifater, y meddwl ymhell.
Ond acw, yn ehangder pell y nef,
ni syfl y llygad, ni phetrusa'r llaw,
ni lacia'r nerf yn y gewynnau dur,
a thorrodd meddwl lyffetheiriau'r pridd,
cadwyni'r clebran, rhwymau heddiw-a-doe,
y mân ofalon, a'r ffuantrwydd oll.
Maent ifanc, eiddgar, noeth,
yng nghwmni'r hen ddoethineb sy'n y sêr
a'r hen hen gân a roed i'r gwynt.
I mi a thi a thithau, dim ond plên
cyfeillgar, cynefindra lleddf,
ar hedd yr hwyr.