Cân neu Ddwy/Y Ffin
← Ysgrin yn Nhyddewi | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Y FFIN
"Ie, Arglwydd,” ebe'i wŷr wrth Fatholwch, "pâr
weithion wahardd y llongau a'r yscraffau a'r corygau,
fel nad êl neb i Gymru; ac a ddêl yma o Gymru,
carchara hwynt."
I
"Uwch y ffin ddofn heb ofni,
Uwch y tywyn ei hewyn hi—
Hir y daith—cymer dy hynt
I'r cyrrau a gâr corwynt.
"Heria’r wendon aflonydd
A'i huchel fost os chwil fydd.
'Heda uwch ei lluwch a'i lli:
Anhunedd sydd hedd iddi.
"Ni fydd na llonydd na llain
I oedi ar dy adain.
Di-frig ydyw'r llwydfor hen:
Uwch ei ddŵr ni chei dderwen.
"Ni chei gwsg yn heddwch gwig,
Na rhos i aros orig,
Na thlws goed i'th lesg adain,
Na'th droed yn rhwydwaith y drain.
"Carcharor y croch oerwynt
Uwch môr wrth gyngor y gwynt
Yn rhwyfo mewn dewr afiaith
A fyddi di ar dy daith.
"Nac ofna: gwêl awelon
Yn gwasgar hyd war y don,
Uwch y twyn, lewych tyner
Lloer a'i charn ar sarn y sêr.
"Chwery ei llwch ar y lli,
A hudolus uwch dyli
Gloywa gem a diemwnt:
Siriola'r sêr heli'r swnt.
"Bwrw adain sionc, ddibryder,
Fel saeth i ofal y sêr.
Chwardd, egwyl, uwch hwrdd eigion;
Chwarae fig â dig y don.
"Drwy gôl y nos dos i'r dydd
A lunia gwawr ysblennydd
Uwch rhosydd, mynydd a môr
Eryri, fy mhur oror.
"Llithri o fôr i'r llathr fae
A'r wawr dyner ar donnau,
Tresi’r wawr tros Eryri
A’i gwrid llosg ar hyd y lli.
"Teg y wawr: hudol olud
Draw a rydd i'r moelydd mud.
'Heda i'w brwyn a'u clogwyni:
'Heda o'r llain ger dŵr lli.
"Nydda dy ffordd i'w nodded.
Uwch bron yr afon a red
O fanwellt y llwyd fynydd
I'r môr drwy oror o wŷdd.
"A glŷn wrth ei glannau hi
A'i si dawel, nes deuai
I fan y tardd unfaint wŷdd
O feini'r creigiog fynydd.
"Yno'r nant a'i thant ni thau
Ger gwaed y grug hyd greigiau:
Lle unig y pîn llonydd
A bro gain aber a gwŷdd.
"Tyn ariant geunant, ar daith i'r gweunydd,
Ei rwydi grisial o'r gwridog rosydd:
Dirwyn ei foliant i'r cadarn foelydd,
A'i sain bereiddia holl swyn boreddydd.
Dilyn ei rawd i'r dolydd—oni red
I bridd fioled bro ddihefelydd.
"'Heda i ros y frodir wen,
Bro annwyl hiraeth Branwen.
Dena'r wawr dyner, eurwallt,
I'w theg wŷdd i blethu'i gwallt.
Yno'n yr hedd ger oerwedd Eryri
Mae arian byrth rhwng y mirain berthi,
Llawer gwyrdd yn lliwio'r gerddi—a llon
Suol awelon uwch rhos a lili.
"Eheda'n awr i'r lwyd nos,
I eigion y gwyll agos.
Rho uwch gawr y croch gerrynt
Arian dy gân yn y gwynt.
Esgyn, ac wrth dy asgell
Hanes gwae di-orffwys gell
Un a rodiodd, fy nrudwen,
Erwau rhydd Eryri wen.
Yfory rhoi ddiferion
O'r ddyri brudd ar ei bron,
Y ddyri a edrydd hiraeth
Rhiain drist wrth estron draeth.
"Minnau, fel poen mewn mynor,
Yn hir a mud draw i'r môr
A syllaf ar dy afiaith
Hyd y dŵr a llwybr dy daith,
Fel cerflun rhyw fun fynor
Uwch maith anwadalwch môr.
"I wybren 'heda'n ebrwydd.
Dyner was, cyfod yn rhwydd
O ddwylo oediog ar eiddil adain
I daran y môr, f'aderyn mirain.
Edrych, mae llewych fel llain—ar loywddwr
Yn bwrw ar y dŵr dy lwybr i'r dwyrain."
II
"Oeda araf bladurwr
Islaw'r garth: noswylia'r gŵr.
Oeda fel rhyw wyliedydd
Ar ei dŵr yn gyrru'r dydd
I huddo'i danllwyth dros ddiwyd wynlli,
A gweu hyd lasnef ei rwysg a'i dlysni
Uwch tonnog faich y twyni.—Gardd o ros
A rydd i hwyrnos i orwedd arni.
"Tawodd y llethrau tywyll;
Hithau'r gog a aeth i'r gwyll.
Aeth yn swil wrth noswylio
I drin ei hadanedd, dro.
O ramant tawel y rhimyn tywod
Fe gilia hoen a thwrf y gwylanod
Ânt o hedd a rhyfeddod—hwyrddydd mwsg
I frwyn a chwsg ac i fryn a chysgod.
"Ar y môr mae porffor pur
Yn lledu is llwyd asur
Y gorwel. Pwy sy'n gwario
Aur rhudd ar ei erwau o?
Mae'r dyfroedd anial yn llawn petalau
Hardd o liw gwin, lle 'roedd heli gynnau
Ond dylif llwyd, diolau.—Ar y dŵr
Ai rhyw swynwyr sy'n gwasgar rhosynnau?
"Ar y dwfn fe ddyry dydd
Dân a gwaed yn gawodydd.
Gwrida'r aur: gwaeda'r arian:
A derfydd y dydd yn lân.
Ai gwylwyr Brân sy'n goleuo'r bryniau
A thanio'r grug a'r eithin ar greigiau
I gynnull yn ugeiniau—wŷr i'm plaid,
Hynod wroniaid y cryf darianau?
"Gwylwyr Brân sydd yn goleuo'r bryniau
I alw i'r don y dewrion yn dyrrau.
Daw i'r llif hyder eu llefau.—Bloeddiant:
Yn gad y llithrant o goed y llethrau.
"Fe rodia’r fanllef ar dwrf ewynlli.
Cyfyd llongau heirdd hwyliau ar ddyli,
Pob hwyl yn arian goleulan lili
Ac aur y don yn ymagor dani.
Fe ddeil hual eu pali—gyfrinion
Dyri'r awelon a grwydra'r heli.
"Canant is hwyliau ceinwedd:
Golud y machlud a'u medd,
Golud y machlud a'r môr
Yn wyll aur i'w bell oror.
Ar fôr o efydd mae cynnwrf rhwyfau
Yn rhwygo arian o'r llithrig erwau.
Naddant ar eigion gulion rigolau
A’u min liw eithin neu aur lywethau.
Hwy droant yn fodrwyau—a'u llachar
Erwau digymar yn rhwydo gemau.
"Eira têr y baneri
Dan y lloer hyd ewyn lli,
Mor lân â'r arian a red
O'r rhwyfau chwim afrifed.
"Dewr hwyliwch, fad wrolion,
Hyd ael lli yn deulu llon!
Rhwygwch wanegau'r cigion!
Rhwygwch a darniwch y don! ...
"Ffodd y sŵn.... Diffydd y sêr,
A llifa cysgod lleufer
Fel mwg neu ryw nifwl main
O ddorau'r pellaf ddwyrain.
"Ni chyffry adar: dim ond galar gwylan
A ddaw o'r môr yn weddi i'r marian,
Dyrys gri dros y graean—anniddig.
Ai adlef unig o’m hoedl fy hunan?
"Ni hedodd i dir, y drudwy mirain,
O’i ruthr hyderus i drothwy'r dwyrain.
Rhoed gwaed ei doredig adain—ar li,
Yn aberth heli, ymborth i wylain.
"Ni ddaw llais o'r niwloedd llwyd:
Byr yw hedd a ddwg breuddwyd.
Dihangodd, crinodd fel cri
Rhyw wylan ym môr heli.
Draw’n y ffin ef a grinodd,
A’m hyder i yma drodd
Yn alar.... Pam na hwyli,
Fab Llŷr, drwy'r dilwybyr li?
III
"Hir flinais ar aflonydd
Ddwndwr y dŵr nos a dydd,
Disgwyl rhyw hwyl ar heli
Neu frig llong hyd farrug lli,
A chlywed gwŷr yn uchel hyd gyrrau
Y swnt oer, unig, a sain tarianau
Cewri fyrdd ar li'n cryfhau—a naid bloedd
Yn waedd i'r glynnoedd o ddŵr y glannau.
"Aur hwyl ni throedia'r heli:
Ni ddaw llong dros ymchwydd lli,
Na llawen nwyf y rhwyfwr
Dewr ei daith hyd war y dŵr.
Ni ddaw o'r môr ond berwddwr y marian
Yn taenu hiraeth y tonnau arian
Ac wylo hyd y geulan—is oernad,
Newynog alwad, rhyw unig wylan.
"Ni rydd môr ond ei wyrdd maith
A'i ddyfal, ryfedd afiaith,
Neu su hiraeth y traeth trist,
A lithra fel chwedl athrist
Ag ynddi loes anhunedd yr oesoedd
A diflin weddi'r afrad flynyddoedd,
Gweddi hyder niferoedd—yn troi'n aeth,
A chwerwi'n alaeth yn nhorchau'r niwloedd.
"Darfu pob prydferth chwerthin
Ger ffawd anhygar y ffin.
Daw'r ôd yn gawod i'm gwallt,
A'i dwf arian hyd f'eurwallt.
Gwywodd y rhudd a wridai fy ngruddiau,
A marw yw hun dan fy llesg amrannau.
Daw hagrwch wedi dagrau—a drygfyd,
A gwawr tros ennyd yw gwrid rhosynnau.
"Gynnau, uwch maith rwgnach môr,
Tawel hoen y telynor
O lys Brân fel eos brudd
A dorrai. Daeth i'm deurudd
Lif fy nagrau yn wylo f'unigrwydd,
Afon o ddagrau fy anniddigrwydd.
Diflin, dan benyd aflwydd—a chyni,
Yw ing yr oedi ym mro ’ngwaradrwydd.
"Byr yw hedd a ddwg breuddwyd,
A rhydd lleddf unigrwydd llwyd
Ei hwyrddydd ar fy harddwch:
Nesâ awr y llawr a'r llwch.
Mi blygaf sidan pob mwyn ddiddanwch,
Oriau a dyddiau yr hen ddedwyddwch:
Gwyraf i'r bedd a'i heddwch—mewn daear,
I hun dialar ei hen dawelwch."
IV
Darfu dy hiraeth dirfawr:
Llwch dy dynerwch yn awr.
Darfu megis y derfydd
Gwawl ar don pan gilia'r dydd.
Ond daeth dy osber o fryniau Erin
Yn gân o ofid i'th hen gynefin.
Hi a ffoes dros donnau'r ffin—yn felys
Alaw a erys yng nghôl y werin.
Murmur môr am wae hiraeth
D’oriau trist ger dwndwr traeth
Unig, pellenig, a llif
Anwadalwch maith dylif.
Treigla'r awelon ddwsmel dy helynt;
Mewn niwl a hindda mae'n alaw ynddynt.
Ei thôn gain a nytha’n y gwynt—a'r brwyn;
Ei hyder addwyn sy'n gynnwrf drwyddynt.
Daw rhyw fardd heibio i'th harddwch,
A chwyd ei lais uwch dy lwch:
"Harddwch rid ofna hyrddwynt,
Na maith her amser a'i hynt.
"Nid oes ffin i'w deg rinwedd.
Ni cheir byth yng ngharchar bedd
I'w adanedd gadwyni:
Nid ofna lef y dwfn li.
"Pan fo hud machlud ym môr,
Gwridog aur ar deg oror
Y mynydd a'r gwŷdd yn gwau,
Doi, Franwen, ar dy fryniau.
"Arnat mae gwrid yr hwyrnos,
A chwery hardd lewych rhos
Yn gylch o’th amgylch, a thêr
Emau o liwiau lawer.
"Dagrau oedd y gemau gynt,
A gwena'n deg ohonynt
Holl oriau blin llawer blwydd,
Y dagrau'n odidowgrwydd !
"Tyner a dibryderi,
Mwyn, a doeth dy dremyn di,
Doeth â chyfoeth ni chafwyd
Ond yn y lleddf donnau llwyd.
"Tristwch yn harddwch a aeth,
A hudolus yw d'alaeth.
Oni chwardd o'i lewych ef
Aeddfedrwydd harddaf hydref?
"Hir yw hedd a ddwg breuddwyd,
A rhydd lleddf unigrwydd llwyd
Ei urddas ar dy harddwch,
A'i ddrud liw sydd ar dy lwch.
Dy hiraeth a roes ledrith i'r oesau:
Dy ruddwawr, Branwen, a drodd i'r bryniau.
Fel islais pêr aberau—dy dristwch
Chwery'n nwfn heddwch yr hen fynyddau."