Cân neu Ddwy/Ysgrin yn Nhyddewi
Gwedd
← Penseiri | Cân neu Ddwy gan T Rowland Hughes |
Y Ffin |
YSGRIN YN NHYDDEWI
Y sgrin yn wyrth? Mae ei esgyrn wrthi—
Gower, a naddodd ei gywrain weddi
O flaen gwyn fel ewyn ar li.—Hudwyd
Holl nwyd ei freuddwyd a'i lafur iddi.
Gwelwch y cain naddiadau ugeinmil
A lle bu'r cŷn ar hyd llwybrau cynnil
Yn agor swp o flagur swil,—dilwch,
Heb rwygo heddwch y brigau eiddil.