Cân neu Ddwy/Y Llwyd Freuddwydiwr

Oddi ar Wicidestun
Nos Nadolig Cân neu Ddwy

gan T Rowland Hughes

Penseiri

Y LLWYD FREUDDWYDIWR

"A Moses, gwas yr Arglwydd, a fu farw yno, yn
nhir Moab . . . ac nid edwyn neb ei fedd hyd y
dydd hwn."

Bu'n fethiant, meddai rhai a'i gwelodd ef
Yn araf droi i'r cwm wrth odre'r gwynt—
Y gŵr digyrrith ei fwriadau fyrdd,
Yr hen freuddwydiwr llesg, ar ben ei hynt—
Y rhai ni chofient mwy
Eu tadau dan eu clwy
A'u maith anobaith hwy.

Ni chofient frath y fflangell a'r rhegfeydd
A gormes haul drwy giaidd ddydd o waith,
Y cefn gwyredig fel pe'n torri'n ddau
A'r gwaed fel morthwyl dan y talcen llaith.
Ni chofient wneuthur main
O bridd di-wellt, a'r brain
Yn llwyd uwchben y llain.

Ni chofient godi o'r main garchardai llwm
I'w brodyr ac i'w plant; ni chofient floedd
Y ffoi i'r nos o gyfyl ing y crud,
Pan ydoedd geni'n ddychryn a phan oedd
Marwolaeth yn rhyddhad,
Yr unig esmwythậd
O loes yr erchyll wlad.


Ni chofient hwy y baglu a'r griddfan gynt
A llawcio'r awyr yn y garpiog leng:
Ni chofient famau'n rhythu ar ddarn o wisg
Gan wybod na ddôi camau'n ôl i'r rheng.
Ni chofient fysedd cryn
Am flwch a'i lwch yn wyn,
A'u gwaed fel gwaed ar gynn.

Cadwyni, sgrech yr allwedd yn y clo,
Mileindra'r chwip yn rhwygo'r gwaed o'r cnawd,
Wylofain gwragedd uwch celanedd plant,
Ysgriwiau newyn, hunllef llid a gwawd—
Ni chofient hirnos ddu
Y gaethglud fawr a fu
I lesg ddisberod lu ...

P'le mae ei fedd, nid oes a ŵyr, medd rhai,
Dim ond doethineb hen y nant a'r rhos;
Ond oeda ambell fugail dan y coed
A chamu'n araf wrth un garreg dlos
Yn ymyl llwyn o ddrain
Lle cyll y nant ei sain
Yn siant y ceunant cain.

A throedia wedyn gyflym lwybrau'r ffridd
Yn hoyw ac esgud, gyda'i hyder ef,
Gan ddringo weithiau tua'r brig uwchben
A'i gân ar adain rhwng y graig a'r nef.
O’i feddrod ef, lle chwardd
Yr awel fwyn, a dardd
Rhyw her, rhyw hyder hardd?


Uwch tarth y rhosydd erys Nebo'n glir,
Yn ddewr ac unig tuag araul dir
Addewid a helaethrwydd, pob dyheu,
Pob breuddwyd y bu'r galon yn ei weu
Ar droell o haearn yng ngwylfeydd y nos.
Ac er na wêl anhysbys fedd y rhos
Y bywyd llawnach a thirionwch tir
Yr addewidion a'r gwastadedd ir,
Bu daer yr ymbil yn y dwylo gwyw.
Ef a freuddwydiodd gynt. A digon yw.