Cân neu Ddwy/Nos Nadolig

Oddi ar Wicidestun
Y Pren Ceirios Cân neu Ddwy

gan T Rowland Hughes

Y Llwyd Freuddwydiwr

NOS NADOLIG

Nid ydyw'r bysedd heno rhwng y sêr
Yn ymbalfalu am eryrod dur.
Mae'n wyn fy myd a'r nos heb olau têr
Na chŵyn y seiren yn darogan cur.
Ni fflachia'r dreigiau lle'r oedd safnau rhwth
Y gynnau'n cyfarth neithiwr ar y lloer,
Ni theifl taranau gryndod drwy fy mwth,
Ni chyffwrdd ofn fy ngrudd â'i dwylo oer.
O'm blaen mae'r Llyfr a'r bennod hynod hon
Am wŷr a ddaeth o fyfyr hen y rhos
I ddinas Herod falch â chamau llon
A'r newydd am a welsant hwy liw nos ...
Liw nos. ... A chwilia doethion heno'r nef
Am seren fach a'u dwg i'w breseb Ef?