Cân neu Ddwy/Y Pren Ceirios

Oddi ar Wicidestun
Y Sioe Cân neu Ddwy

gan T Rowland Hughes

Nos Nadolig

Y PREN CEIRIOS

Ni wyddost, bren y ceirios, fod y byd
yn glwyfau i gyd;
ni welaist, a'th ganghennau'n niwl o wlân,
y bwth di-gân
a'i grud a'i aelwyd hoff yn ddarnau mân.

Ni weli drwy dy flodau'r llun o fwth
a'i lygaid rhwth
fel llygaid penglog uwch dy harddwch gwyn
yn syllu’n syn
a methu â deall pam y mae fel hyn.

Yr wyt ti, bren y ceirios, yn rhy hardd
i fyd lle tardd
ffynhonnau dagrau o ddyfnderoedd cur.
'R wyt ti'n rhy bur
i fyd a'i nef yn llawn eryrod dur.