Cadeiriau Enwog/Cadair yr Aelwyd

Oddi ar Wicidestun
Cadair Llenyddiaeth Cadeiriau Enwog

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Cadair Angel

PENNOD V.

CADAIR YR AELWYD.

PRIF nodwedd y gadair hon ydyw anwyldeb a serch. Y mae yn perthyn iddi awdurdod, ond nid awdurdod noeth ydyw; awdurdod wedi ei wisgo â hyfrydwch. Nid athrylith, nid talent, sydd yn llywodraethu y gadair hon. Ei harwyddair ydyw tiriondeb a hynawsedd. Y mae adgofion boreu oes yn blethedig am dani fel yr eiddew am y pren. Cadair mam a thad, brawd a chwaer,-gymaint o stori bywyd sydd wedi derbyn ei hystyr o'r mannau hyn! Y mae Eliza Cook wedi canu llawer dernyn a lithra i dir angof, ond y mae ganddi un gân, o leiaf, sydd i fyw,—"Hen Gadair Fraich fy Mam."

I love it, I love it; and who shall dare
To chide me for loving that old arm-chair?
I've treasured it long as a sainted prize:
I've bedewed it with tears, and embalmed it with sighs ;
'Tis bound by a thousand ties to my heart;
Not a tie will break, not a link will start,
Would ye learn the spell? a mother sat there;
And a sacred thing is that old arm-chair.

Nid oes odid yr un bardd wedi canu ei adgofion, heb fynd i'r gongl wrth y tân, lle yr oedd cadair yr aelwyd yn disgwyl rhywun adref gyda'r nos. Mor naturiol ydyw y desgrifiad canlynol gan Glan Alun:—

Mi wela nhad mewn cadair freichiau fawr,
(Mae'r gadair hon yn aros hyd yn awr)
A'i goesau 'mhleth, a'i bibell yn ei law,
Yn swyno pob gofalon blinion draw.

Yn mŵg y bibell bêr yn ddigon pell,
Tra sugnai drwy ei phig feddyliau gwell.
Eisteddai mam i wnio o flaen y tân,
Neu ynte i olrhain yr Ysgrythyr Lân.
Ac ambell air i nhad, neu sèn i mi
Am guro cefn y gath, neu dynu clust y ci;
Fy mrawd a'm chwaer ar fainc, a rhwng y ddau
Y forwyn henaf oedd yn prysur wau,
Ychydig o'r naill du 'roedd llencyn brèc
Yn dysgu y forwyn fach yr A BC;
A minnau ar fy stôl yn ddigon siwr
Rhwng mam a nhad, nid y distadlaf wr
Y tanllwyth mawr yn taflu siriol wres,
Nes oeddwn bron a mygu gan ei dês.
O maes fe glywir storm, gauafaidd swn,
Plith oeraidd fref y fuwch, ac udiad cŵn;
Ffenestri a drysau gan y gwynt a gryn;
Yn ngwyll y nos fe welir eira gwyn,
A gwlaw a chenllysg mawr heb drugarhau
O bryd i bryd yn curo'r gwydr brau.
Ni wna y gwynt a'r gwlaw ac oll yn nghyd
Ond gwneyd teimladau'r teulu yn fwy clyd;
Ar ol pob rhuthr fe grynhoa y rhes,
Yn nes yn nghyd, ac at y tân yn nes.
Yn fuan dygir yr hen Feibl mawr
A'i amgudd gwyrdd oddiar y silff i lawr;
Fy nhad a'i gadach dŷn y mân-lwch draw
Oddiar ei spectol, yna gyda llaw

Ofalus, try ddalenau'r Beibl cut
Sy braidd yn waeth o'r mynych droi a fu.
Ac wedi darllen rhan o'r Dwyfol Air,
A sylw bychan arno, plygu wnair;
A nhad ddyrchafa ei grynedig lef,
Mewn gweddi a mawl teuluaidd tua'r nef.
Mi glywais fwy hyawdledd lawer trô,
Ond neb ni cherais ddilyn fel y fo;
Yn fyr, ond yn gynwysfawr, ac yn llawn,
O buraidd ysbryd, os nid mawredd dawn.

Ond o'r holl böetau, nid oes neb wedi ymdroi gyda'r aelwyd yn fwy na Longfellow. Bardd yr aelwyd ydyw ef; ac nid oes hyfrytach cwmni ar hirnos gauaf, pan y byddo dyn yn gweled gweledigaethau yn y fflam, ac yn clywed anthem yr ystorm yn ymdaith yn amlder ei grym. Yr aelwyd, ebai Longfellow, ydyw y Garreg Filldir Aur, a chanolbwynt serch ydyw y gadair ger y tân:—

Ar yr aelwyd yr eistedd henafgwyr methedig,
A gwelant adfeilion dinasoedd, yn lludw y marwor;
Gofynnant yn brudd,
I'r gorphenol am yr hyn na ddychwela.


Ar yr aelwyd yr eistedd breuddwydwyr ieuengaidd,
A gwelant gastelli aml—dyrog, ac curaidd binaclau,
Gofynnant yn syn,
I'r dyfodol am yr hyn na fedd iddynt.

Yr aelwyd yw'r aur garreg filldir,
Oddiyno mae dynion yn mesur
Pellderoedd y daith,
A throion maith bywyd o'u deutu.

Ar ymdaith bellenig mae dyn yn ei chanfod,
Mae'n clywed y gwynt yn rhuo'n y simddai,
Yn clywed yr ymgom,
Fel bu lawer cyfnos, sydd wedi diflannu.

Gallwn godi anneddau mwy gwych a godidog.
Gallwn lanw'r ystafell å dodrefn mwy costfawr;
Ond nid oes un golud
All brynu dedwyddyd,
All adfer adgofion claerwynion ein mebyd.

Longfellow, fel mae'n hysbys, a ganoddglodydd "Gof y Pentref:"—

Tan gastanwydden eang, saif
Yr "efail gof" pentrefol ;
Y gof, grymus ol wr yw ef,
A dwylaw mawr gewynol,—
Cyhyrau'i freichiau cryf sydd fel
Ffunenau heyrn o nerthol.


Week in, week out, from morn till night,
You can hear his bellows blow;
You can hear him swing his heavy sledge,
With measured beat and slow,
Like a sexton ringing the village bell,
When the evening sun is low.

Desgrifia y plant yn dychwelyd o'r ysgol ar brydnawn, yn cîl—edrych drwy ddrws yr efail, ac yn ymddigrifo gyda'r gwreichion,—

And children coming home from school
Look in at the open door;
They love to see the flaming forge,
And hear the bellows roar,
And catch the burning sparks that fly
Like chaff from a threshing floor.

Ac yn mhen blynyddau lawer, pan oedd y bardd wedi croesi trothwy deg a thriugain oed, y mae plant y "pentref" hwnnw yn ei anrhegu â chadair wedi ei llunio o goed y pren,—y chestnut tree—a anfarwolwyd yn y gân. Y mae yntau yn ei derbyn, yn eistedd ynddi, ac am enyd y mae llanw Amser yn troi yn ol er mwyn iddo weled golygfeydd y dyddiau gynt. Dyma ei brofiad ar y pryd, pan yn eistedd yn y gadair a anfonwyd iddo fel arwydd o serch y plant:—

I see again, as one in vision sees,
The blossoms and the bees,
And hear the children's voices shout and call,
And the brown chestnuts fall.

I see the smithy with its fires aglow,
I hear the bellows blow;
And the shrill hammers on the anvil beat
The iron white with heat.
And thus, my children, have you made for me,
This day a jubilee,
And to my more than three—score years and ten,
Brought back my youth again.

Y fath ydyw swyn cadair yr aelwyd yn mhob gwlad. Y mae'n dod, rywfodd, yn rhan o'n bywyd. Nid ydym yn teimlo yr un modd gydag unrhyw ddodrefnyn arall. Ond os bydd dyn yn trigiannu am ysbaid yn yr un ystafell, ond odid na fydd iddo gysylltu ei hun â rhyw gadair arbenig. Ei gadair ef ydyw. Nid ydyw mor gysurus yn yr un arall. Y mae y gadair ac yntau yn ffurfio cyfathrach, yn dod i ddeall eu gilydd! Y mae yn ei chynyg, ambell waith, i ryw gyfaill fo yn galw, ond nid yw yn meddw] iddo ei chymeryd, ac os yn ddyn doeth nid ydyw yn debyg o wneyd hynny. Y mae yna ryw berthynas gyfrin yn ymffurfio rhwng dyn a'i gadair, sydd yn mynd yn gryfach, ac yn anwylach o hyd. "Nerth arferiad," meddir; eithaf posibl, ond fod yna ryw nerth ar waith sydd yn eglur i bawb. At hyn yr oedd y diweddar Fynyddog yn cyfeirio yn ei gân hapus i "Gartref." Yr oedd wedi bod ar grwydr, ond o'r diwedd, y mae yn dychwelyd i'r hen gynefin. Ac y mae yn credu fod pobpeth yn ei roesawu yn ei ffordd ei hun, y ci a'r gath, ie, a'r gadair lle yr eisteddai fin nos,—

Mae'r hen gadair hithau,
Yn estyn ei breichiau,
A bron a dweyd geiriau o gariad.


Gosodwn werth ar y gadair hon,—cadair yr aelwyd, cadair anwyldeb a serch. Ceisiwn ei llanw a'i phriodoleddau dymunol ei hun. Dichon fod yna lawer o gadeiriau na chawn y fraint o eistedd ynddynt. Ychydig sydd yn llwyddo i esgyn i gadair anrhydedd ac enwogrwydd, ond y mae cadair yr aelwyd yn agos atom, ac yn gyfleusdra rhagorol i ddadblygu yr ochr oreu i gymeriad, rhinweddau y galon, tiriondeb, a serch. Os gwneir hynny yn y blynyddau sydd yn dod, fe gedwir dylanwadau bywiol a phur yn ein gwlad.

Y mae llwyddiant y gyfundrefn addysgawl sydd wedi ei sefydlu yn ein plith yn dibynu i fesur mawr ar nodwedd yr addysg a gyfrennir o gadair mam a thad. Y mae rhyw ddylanwad, da neu ddrwg, sydd ymron yn annileadwy, yn cael ei gyfrannu yn y llanerch gysegredig hon. Pan y mae blagur serch ac edmygedd yn dechreu ymagor, pan y mae y meddwl yn dyner ac iraidd,—dyna'r pryd y mae gwersi'r aelwyd yn diferu eu balm neu eu wermod ar y galon a'r côf. Os bydd addysg tad yn yr adeg hon yn "addysg dda; " os bydd deddf yr aelwyd yn "gyfraith trugaredd a gwirionedd," yna gellir disgwyl i'r sawl a feithrinir dan ei dylanwad ddod i garu doethineb, ac i ymhyfrydu yn llwybrau deall. Y mae cadair mam yn sedd frenhinol; y mae'n perthyn iddi deyrnwialen a choron. Teyrnwialen aur cariad a hynawsedd, ac nid gwialen haiarn gorfodaeth a gerwindeb. Tra y cedwir y gadair deuluaidd yn gysegredig i burdeb a rhinwedd, yna bydd awdurdod y "goron" yn ddiogel. Coronir ymdrechion yr aelwyd ag ufudd—dod a pharchedigaeth, ac nis gall ysbryd yr oes ddenu y Cymro ieuanc i wadu addysg tad, nac i ymado â chyfraith ei fam.

Ac yn yr ystyr hwn, cadair yr aelwyd ydyw yr uwchaf, yr ardderchocaf o'r oll. Hon yw y gadair bennaf. Y mae anrhydedd, awdurdod, ac anwyldeb yn cyd—ymgrymu uwch ei phen fel y cerubiaid uwchben y drugareddfa. Ac wedi i'r anwyliaid fuont yn eistedd ynddi gael eu galw i wlad yr angel a'r delyn, y mae rhyw ysbryd gwyn yn sibrwd am danynt, fel y dywed Islwyn am ei fam:—

Ai breuddwyd mawr ei rin,
A gefais wrthyf f'hun,
Ai rhyw gerûbiaidd lûn
A welais fry?
Un fraich o dan fy mhen,
A'r llall fyth tua'r nen
Yn gofyn bendith wen
A rhad i mi.

Arhosed cadair yr aelwyd yn Nghymru, megis y mae wedi bod mewn cannoedd o gartrefi cyffredin a diaddurn, — arhosed eto yn orsedd, yn allor, ac yn ffynhonell mwynhad. Yna, gellir cymhwyso llinellau Dewi Wyn at y rhai a fegir o'i deutu,—

Uwch, uwch, uwchach yr êl,
Dringed i gadair angel.


Nodiadau[golygu]