Cadeiriau Enwog/Cadair Llenyddiaeth

Oddi ar Wicidestun
Cadair Gwleidyddiaeth Cadeiriau Enwog

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Cadair yr Aelwyd

PENNOD IV.

CADAIR LLENYDDIAETH.

GELLIR dweyd fod yn perthyn i lenyddiaeth amryw gadeiriau, yn amrywio mewn gradd a gwerth. Yn Nghymru, dichon mai y brif gadair ydyw cadair yr Eis- teddfod.

I. CADAIR Y BARDD.

Yn unol â thraddodiadau y gorphenol y mae honno, o ran ei gwneuthuriad, i fod yn gadair dderw,—

Cadeiriwyd mewn coed derwen,
Y Bardd a farnwyd yn ben.


Nis gellir dweyd gyda sicrwydd beth ydyw oedran y ddefod o gadeirio. Gwyddis fod yr Athraw J. Morris Jones, wedi taflu amheuaeth, os nad rhywbeth mwy, ar henafiaeth honedig yr Orsedd a'i gwasanaeth. Dichon y gwnelai yr un peth â'r ddefod o gadeirio. Ond y mae hyn yn arferiad, bellach, er's llawer dydd, ac y mae y dyddordeb a deimlir yn y seremoni gan y lluaws yn anwadadwy.

Y mae "Cyfrinach Beirdd Ynys Prydain," yn trafod pwnc y cadeiriau Eisteddfodol, ac yn dadleu dros eu hawdurdod a'u henafiaeth. Sonia am Gadair Morgannwg, Cadair Tir Iarll, Cadair y Ford Gron, &c.:—

"Gwedi cwymp Arthur aeth celfyddyd a gwybodaeth dan orchudd, herwydd difrod ac anrhaith rhyfeloedd gwaedlyd: heb braidd llenlewyrch yn tywynu i ddeffroi ymgais. Tua dechreu y nawfed ganrif ymddangosodd awenydd athrylithlawn, goleufyw,—Ceraint Fardd Glâs o'r Gadair, yr hwn a gododd Gadair adgywair wrth gerdd, yn Llandaf, a'r gair cyssŵyn, 'Duw a Phob Daioni.' A thyma ddechreu Cadair Morgannwg, yn ymrafael ar Gadair Beirdd Ynys Prydain, sef, un Caerlleon ar Wysg, er mai blynyddau ar ol hynny y galwyd hi yn Gadair Morgannwg."

"Einion ap Collwyn a ddodes y Gadair gyntaf yn Nhir Iarll, lle ei gelwid Cadair Einion."

"Cadair Taliesin, Bardd Urien Rheged yn Llanllychwr a elwid Cadair Fedydd am nas gellid Braint Athraw ynddi ond a fyddai dan fedydd ac adduned y ffydd yn Nghrist; a'r gair cyssŵyn, 'Da'r maen gyda'r Efengyl,' a'r gair hynny a fu hyd amser Rhobert, Iarll Caerloyw. A dodi ar gadair Tir Iarll chwilio yn maes hen wybodau Barddas; a chwedir chwiliaw, a'r caffael, a'r cadarnhad,—dwyn adwaedd Prif Gadair a Gorsedd, &c." Ond y mae ysgrif arall yn rhoddi y flaenoriaeth i'r Ford Gron. "A goreuon o'r hen ddefodau y cafwyd dosbarth y Ford Gron. . . . Ag un y Ford Gron oedd honno, yn amgen ei threfn na Thir Iarll . . . A'r ddegfed flwyddyn. cynal ail Eisteddfod Fawr Caerfyrddin, lle ennillodd Dafydd ap Edmwnt y Gadair Arian am ei orchestion a fernid yn oferbwyll celfyddyd gan feirdd Morgannwg; a Llawdden, yn Bencerdd Cadeiriog, a gafodd y Fwyall Aur am ei wellhad ar y cynganeddion, ac ni bu achos gwellhau arnynt ymhellach fyth wedi hynny! Ac yn yr Eisteddfod honno Beirdd Morgannwg a ddodasant eu gwrthneu yn erbyn Dosbarth Pedwar Pennill ar Hugain Dafydd ap Edmwnt . . . . ac o hynny allan aeth Cadair Morgannwg ar ei phen ei hunan yn mraint Beirdd Ynys Prydain, âg yn ei chesail Dosparth y Ford Gron, fal ag a'i cadarnhäed yno gan Rhobert, Iarll Caerloyw, a Mabli ei wraig, y dydd y priodasant yn Nghastell Caerdydd." Gorchwyl digon cymhwys i'w wneyd ar ddydd priodas, gallwn dybied, oedd cadarnhau gwasanaeth gwerthfawr y Ford Gron!

Yn y dyddiau fu, ychydig ydoedd rhif y beirdd cadeiriol, ac nid ydoedd yr un bardd yn ennill mwy nac un neu ddwy o gadeiriau mewn oes. Erbyn heddyw, y mae genym feirdd y pum' cadair; ac yn gymaint a bod eisteddfodau lleol yn cysylltu cadair â'u testynau barddonol, y mae gan rai brodyr diwyd ddigon o gadeiriau, ysgatfydd, i gychwyn masnachdy dodrefn! Ond gydag eithriad neu ddwy, y mae cadair yr Eisteddfod Genedlaethol wedi bod yn gyfyngedig i'r mesurau caethion—i'r awdl. Y canlyniad ydoedd, fod nifer o brif feirdd Cymru, yn yr amser aeth heibio, heb eu hanrhydeddu yn y ffordd hon. Un ohonynt ydoedd Ceiriog, un arall ydoedd Islwyn. Ystyrir y ddau, bellach, yn mysg awenyddion penaf ein gwlad, ac y mae gwyr cymhwys i farnu yn cyfrif rhai o ganeuon Ceiriog, a rhai o bryddestau Islwyn, yn geinion ein llenyddiaeth farddonol. Ond yn herwydd. caethder y mesurau gwarantedig—"porth cyfyng" y pedwar mesur ar hugain, cawsant eu hamddifadu o anrhydedd y gadair. Yr oedd darlithydd poblogaidd, yn ddiweddar, yn "diolch i'r nefoedd" nad ydoedd Islwyn wedi ennill cadair yr Eisteddfod. Prin y gallwn. ddodi ein Hamen wrth y gosodiad. Yr ydym yn hytrach yn gofidio fod yr Eisteddfod, oherwydd culni ei rheolau, wedi colli y cyfle i roddi parch i'r sawl yr oedd, ac y mae parch yn ddyledus. Yr un pryd, parod ydym i gyffesu fod Cymru wedi ei breintio â darnau godidog o farddoniaeth dan oruchwyliaeth gyfyng y gynganedd, er na chafodd yr oll, hwyrach y goreuon o honynt, ddim eu hanrhydeddu â chlod y gadair. Y mae "Elusengarwch" Dewi Wyn; "Dinystr Jerusalem" Eben Fardd; Creadigaeth" Emrys; "Rothsay Castle Caledfryn; "Heddwch" Hiraethog; "Rhagluniaeth Tafolog, &c., i'w rhestru yn mysg gemau yr iaith.

Golygfa ddyddorol, gofiadwy, fel rheol, ydyw cadeiriad y bardd. Y mae môr o wynebau yn amgylchynu y llwyfan. Y mae y pryder yn dwyshau fel y mae y feirniadaeth yn mynd rhagddi. Dywedir fod yna bedwar—tri—dau—yn rhagori. Y mae y glorian yn ysgwyd yn betrusgar am enyd; ond, dyna y fantol yn troi, a ffugenw y buddugol yn cael ei floeddio uwch ben y dorf. Dyna rywun yn codi yn y seddau cefn, clywir mil o leisiau yn ymholi—Pwy ydyw? Y mae y seindorf yn chwareu ymdeithgan y concwerwr. Dyna'r bardd ar y llwyfan. Arweinir ef yn ofalus i ymyl y gadair. Noethir y cledd uwch ei ben, a gofynnir y cwestiwn holl-bwysig,—"A oes heddwch?" Ac wedi cael atebiad boddhaol gan y gwyddfodolion, gweinir y cledd, caniateir i'r cystadleuydd ffodus eistedd yn ei gadair, a chyhoeddir ef yn brif—fardd y flwyddyn. Ond y mae wedi digwydd cyn hyn fod y bardd buddugol wedi gado y byd cyn i ddiwrnod y cadeirio ddod. Felly y bu yn nglyn âg Eisteddfod Gwrecsam,—yr hon a gofir fel Eisteddfod Y GADAIR DDU. Nis gall neb oedd yn bresennol anghofio'r olygfa. Darllenwyd y feirniadaeth fel arferol. Cyhoeddwyd ffugenw yr ymgeisydd llwyddiannus, ond nid oedd yno lef na neb yn ateb. Hysbyswyd yn mhen enyd mai y buddugol ydoedd Taliesin o Eifion,—yntau fardd gloew yn farw'n ei fedd! Dodwyd amlen o frethyn du ar y gadair; galwyd ar Edith Wynne i ganu un o alawon wylofus Cymru. Daeth hithau ymlaen ar y llwyfan, a dechreuodd ganu nodau lleddfol, hiraethus, "Dafydd y Garreg Wen." Meddiannwyd y dyrfa gan ryw deimlad dystaw, dwys; llifai deigryn dros lawer grudd; gorchfygwyd y gantores enwog ei hun, a gorfu iddi eistedd ar ganol y gân. Y mae yna lawer adgof, dyddan a phrudd, yn gysylltiedig â chadair y bardd.

II. CADAIR Y GOLYGYDD.

Cadair anweledig i'r cyhoedd ydyw hon, ond y mae ei dylanwad yn fawr a chynyddol. Ychydig mewn cydmariaeth sydd yn gwybod nemawr am ochr fewnol bywyd newyddiadurol ein teyrnas. Mae'n hysbys fod swyddfa newyddiadur yn lle rhyfedd. Yn mysg pethau eraill, y mae yno fôd a adwaenir fel d——l y wasg. Efe sydd yn cyflawni pob drwg; yn cymysgu llythyrenau, yn torfynyglu ysgrifau, ac yn gwneyd troion angharedig â gohebwyr diniwaid. Y mae yno wr arall a elwir yn foesgar wrth yr enw "Mr. Gol." Credir fod ganddo dri pheth yn amgylchynu ei bersonoliaeth ddirgeledig, nid amgen, bwrdd, basged, a chadair. Un o'r pethau cyntaf y daw gohebydd i wybod am dano ydyw y bwrdd,—bwrdd y golygydd. Y mae hwnw yn llawn, fel rheol, nid o drugareddau, ond o ysgrifau o bob rhyw fath. O dan y bwrdd y mae basged—y Fasged, ac y mae yna ryw gymundeb dirgelaidd cyd—rhwng y naill a'r llall. Y mae y fasged ddidostur hon wedi bod yn feddrod anamserol i lawer cân ac ysgrif fuasent, ond cael chwareu teg, wedi dod yn anfarwol. Ond y peth penaf ydyw y gadair, cadair y Golygydd. Dyna ganolbwynt awdurdod; y mae gair y gadair hon yn derfynol. Oddiyma y mae y newyddiadur yn derbyn ei gyfeiriad a'i nod. Ac i bawb sydd yn ymsyniol o ddylanwad y wasg, fe gydnabyddir ei fod o'r pwys mwyaf i'r gadair hon gael ei llanw gan wyr egwyddorol a chraff. Y mae erthyglau y "papyr newydd," llef ddystaw fain y wasg ddyddiol ac wythnosol, yn meddu dylanwad aruthrol. Dyna un peth sydd yn cysylltu difrifwch a chadair y golygydd. Dylanwad amhersonol ydyw, i raddau pell, ond y mae yn ddylanwad er hyny. Y mae y gynulleidfa sydd yn darllen ac yn astudio y bregeth yn fwy, lawer pryd, nac eiddo y darlithydd cyhoeddus mwyaf poblogaidd. Ac y mae temtasiynau y swydd yn gryfion ac yn danbaid. Hud-ddenir y newyddiadurwr, drwy gyfrwng aur ac arian, i ddarn-gelu ffeithiau, ac i werthu ei gydwybod er mwyn gwobr. Ond y mae genym wyr wrth lyw y wasg nas gellir eu prynu yn y modd hwn. Y mae Mr. Fred. A. Atkins, yn un o'i lyfrau dyddorus, yn adrodd hanes George Jones, perchenog y New York Times. Yr oedd yn gyfaill i Horace Greeley, yr oedd y ddau yn cychwyn eu prentisiaeth tua'r un adeg. Argraffwyr oeddynt, ac ymladdasant frwydr galed ag anffodion boreu oes. Daeth y ddau i New York, a gwnaethant iddynt eu hunain enw arhosol ar faes newyddiaduriaeth Americanaidd. Daeth George Jones, yn olygydd a pherchen y Tribune, a phrofodd. ei hun yn wr egwyddorol a diofn. Yr oedd twyll masnachol yn cael ei ddwyn ymlaen yn ddirgelaidd yn y blynyddau hyny dan yr enw. "weed ring." Daeth y ffeithiau i ddwylaw George Jones, a phenderfynodd eu dadlenu ger bron y byd. Yn y cyfamser, anfonwyd un o swyddogion cudd y ring at y newyddiadurwr, a chynygiodd iddo filiwn o ddoleri, ar yr amod iddo beidio cyhoeddi y ffeithiau oedd yn ei feddiant. Miliwn o ddoleri, ddarllenydd. Dyna y bribe fwyaf y mae hanes am dani, ond cafodd ei gwrthod, gyda diystyrwch, a chyhoeddwyd y dadleniad cywilyddus yn y Tribune fore drannoeth. Well done, George Jones. A oedd yn Gymro nis gwyddom. Gobeithiwn ei fod. Gwyddom am wr arall sydd wedi aberthu swydd golygydd, oedd yn cynwys cyflog o ddwy fil o bunnau yn y flwyddyn yn hytrach na chefnogi llenyddiaeth y "gamblo" yn y newyddiadur oedd o dan ei ofal. Dynion o'r egwyddorion hyn ddylai fod yn llanw cadair y golygydd yn mhob swyddfa newyddiadurol o fewn y deyrnas. Pe ceid hynny, deuai y newyddiadur ar bob achlysur, yn bregethwr cyfiawnder, ac yn apostol purdeb.

III. CADAIR YR AWDWR.

Nid ydyw hon yn gadair swyddogol. Y mae yn haeddu ei hanrhydeddu ar gyfri'r ffaith fod rhywun wedi bod yn ei defnyddio i ysgrifenu yr hyn nad â i dir anghof; rhyw ddernyn llenyddol sydd yn cael ei ddarllen, eilwaith a thrachefn, gyda mwynhad. Dyna gadair John Bunyan, lle yr ysgrifennwyd y breuddwyd anfarwol; cadair Walter Scott, lle yr ysgrifennwyd rhamantau cynhyrfiol y canol-oesoedd; cadair Carlyle, lle y bu efe yn chwysu ei ymenydd gyda'r traethodau cawraidd hynny sydd wedi cynhyrfu ac angerddoli cynifer o feddyliau eraill. A oeddynt yn gadeiriau drudfawr ac addurniadol? Nac oeddynt. Cadeiriau celyd, plaen, oeddynt, wedi eu bwriadu nid i helpu dyn i gysgu, ond i'w gadw yn effro. Yr ydym yn falch o gael ymollwng i'r gadair esmwyth ar ddiwedd y dydd, pan wedi blino, ac yn lluddedig gan y daith. Ond nid oes neb hyd yma wedi llwyddo i wneyd gwaith bywyd oddiar easy chair.

Yn nghofiant y diweddar Stowell Brown, ceir y cynghor a ganlyn:—"Gochelwch yr esmwythfainc." I efrydydd y rhoddwyd y cynghor ar y dechreu, ac y mae yn anhawdd cael ei well. Anfantais i ddyn astudio ydyw. presenoldeb y sofa a'r gadair esmwyth. I amcanion meddyliol y mae y bwrdd plaen a'r gadair galed yn llawer mwy pwrpasol. Os trown ein golwg i'r gorphenol, ni a gawn fod y llyfrau hynny sydd wedi gadael eu hargraff ar y byd, y llyfrau na byddant feirw,—wedi eu cyfansoddi o dan amgylchiadau digon celyd. Nid oddiar sofa yr ysgrifenwyd Epistolau Paul; yn nghell oer a diaddurn y carchar y rhoddwyd ffurf i amryw o honynt. Cyfansoddodd Luther luaws o'i lyfrau tra yn garcharor yn nghastell y Wartburg. Dywedir mai mewn ystafell syml, heb ddim braidd ynddi ond bwrdd noeth a chadair dderw galed, y bu Jonathan Edwards yn llunio ei draethawd dyfnddysg ar "Ryddid yr Ewyllys." Gŵyr pawb mai yn ngharchar Bedford, heb un esmwythfainc yn agos ato, y bu Bunyan yn ysgrifenu ei freuddwyd anfarwol. Mae yn dra thebyg pe cawsai athrylith y tincer ei suo i gysgu ar lythau y palas, y buasai y byd heb "Daith y Pererin." Mae yn hysbys ddigon mai ysgrifenydd diflin ydoedd John Wesley, eithr nid mewn easy chair yr oedd yn cyfansoddi, ond yn hytrach na cholli mynyd o amser, fe ysgrifenai ei feddyliau tra yn marchogaeth o'r naill dref a dinas i'r llall i bregethu efengyl y deyrnas. Nid oddiar esmwythfainc yr ysgrifenwyd hanes teithiau dyddorus Livingstone a Stanley, a llu o lyfrau eraill y gellid eu henwi. Mewn gair, y mae moethau yn angeuol i bob gorchest feddyliol. Rhaid cosbi y corff a'i ddwyn yn gaeth, os yw y deall a'r rheswm i gael chwareu teg. Pan yn myned i fyfyrgell ambell frawd, a gweled y sofa harddwych un ochr i'r ystafell, a'r gadair fraich ddofn, esmwyth, o flaen y tân, nis gallwn lai na meddwl am gynghor Stowell Brown,—Gochelwch yr esmwythfainc! I efrydydd, y mae honno fel Dalilah yn ei demtio i dreulio ei amser mewn oferedd, a pha beth bynnag oedd ei allu neu ei ragoriaethau yn y gorphenol, daw yn fuan fel "gwr arall." Nis gall "ymysgwyd" o flaen y cyhoedd megys cynt, a daw astudio yn faich ac nid yn fwynhad. Ac wrth y bechgyn diwyd hynny sydd yn ymroi i ddarllen. a meddwl dan anfantais, y dywedwn,—Na chwenychwch yr esmwythfainc. Y mae yr awr a ysbeilir oddiar y duw dwl cwsg yn y boreu cyn myned at orchwylion y dydd, neu y seibiant a dreulir mewn ystafell ddiaddurn wedi i waith y diwrnod fyned drosodd, yn ddysgyblaeth feddyliol o'r fath oreu. Y mae amser a brynir yn ddrud fel yna yn sicr o ddwyn ffrwyth ar ei ganfed. Clywais aml i fachgen meddylgar o weithiwr yn dweyd,—"Beth pe cawn ddiwrnod cyfan i ddarllen llyfr ? Beth pe buasai gennyf ystafell hardd a llyfrgell helaeth i mi fy hun!" Credai na fuasai dim yn sefyll o'i flaen; mai darllen a myfyrio a wnaethai yn ddibaid. Ond, yn fynych, y mae dwy awr neu dair a gysegrir i astudiaeth o ganol gorchwylion bywyd, yn llawer mwy bendithiol i ddyn na meddu y pethau y mae llu o bobl ieuainc yn tybied mai hwy ydynt anhebgorion llwyddiant meddyliol. Gwell o lawer, fy nghyfaill ieuanc, i ti yn yr ystyr uchaf, ydyw yr ystafell gyffredin, y bwrdd bach, y ganwyll ddimai, y gadair galed, a'r ychydig lyfrau a ddarllennir gennyt yn awr, na phe y dodid di mewn ystafell wech, o flaen bwrdd mahogany, ac ar y sofa fwyaf melfedaidd y gellid meddwl am dani. Cred a chofia gynghor y dyn doeth a da a nodwyd yn barod. Melldith llu o efrydwyr yn y dyddiau hyn ydyw esmwythfeinciau.

Y GADAIR WAG. Y mae yna ddarlun adnabyddus yn dwyn yr enw uchod,—"Y gadair wag." Cadair Charles Dickens ydyw, yn Gad's Hill. Nid oes dim yn hynod ynddi fel dodrefnyn, heblaw y ffaith mai ynddi hi yr ysgrifennwyd y gweithiau hynny sydd wedi creu gwenau a thynu dagrau o lygaid myrdd.

Yn y gadair honno y cyfansoddwyd "David Copperfield," a "Bleak House." Yno y saerniwyd cymeriadau dihafal Pickwick, Weller, Micawber, Oliver Twist, a Little Nell. Y mae oriel cymeriadau Dickens yn cynnwys cyd-gasgliad rhyfedd ac amrywiaethol, ac nid enwau dychymygol ydyw y rhan fwyaf ohonynt. Yr ydys yn teimlo eu bod yn sylweddau byw, ac yn dod i'w caru, neu eu cashau yn angerddol. Onid oes amryw o'r cymeriadau hyn, bellach, wedi dod yn enwau ystrydebol ar y dosbarth a gynrychiolid ganddynt? Do, bu cadair Dickens yn ganol-bwynt i ysbrydion drwg a da i gyd-grynhoi, a chafodd amryw ohonynt enw a nod a erys am lawer oes. Ciliodd yr awdwr ohoni ryw brydnawn,—byth i ddod yn ol. Ac nid oedd neb fedrai lanw ei le. Cadair wag ydyw, ac a fydd y gadair honno mwy.

Nodiadau[golygu]