Cadeiriau Enwog/Cadair Gwleidyddiaeth

Oddi ar Wicidestun
Cadair Crefydd Cadeiriau Enwog

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Cadair Llenyddiaeth

PENNOD III.

CADAIR GWLEIDYDDIAETH.

Y BRIF gadair yn y cysylltiad hwn ydyw eiddo y penadur,—y deyrn-gadair, yr orseddfainc. Y mae honno, yn nglyn â'n teyrnas ni, wedi ei lleoli yn Nhy yr Arglwyddi; ond y mae cadair arall sydd yn meddu ar lawn cymaint o ddyddordeb,—

CADAIR Y CORONIAD.

Y mae wedi ei lleoli yn monachlog hybarch Westminster. Nid ydyw y coronation chair ond dernyn digon caled a diaddurn yr olwg arni, ond y mae ei hanes yn gydblethedig â hanes a chynydd Prydain Fawr. Yn y gadair honno, yn y flwyddyn 1837, y derbyniodd ein grasusaf Frenhines ei choron a'i theyrnwialen. Mewn gweriniaeth fel eiddo Ffrainc, a'r Unol Daleithiau y mae y deyrngadair yn absennol. Cadair yr arlywydd ydyw pinacl anrhydedd. Y mae yr Unol Daleithiau yn ymferwi drwyddynt yn nglyn âg etholiad arlywydd. Y mae y cyffro enfawr, a'r draul anferth yr eir iddi bob pedair blynedd yn cydgrynhoi mewn cadair. Ac er fod llawer o ddylanwadau amheus ar waith, yn amser etholiad, y mae prif gadair gweriniaeth yn gadair agored. Gall bechgyn o'r dosbarth gweithiol, fel Lincoln, Garfield, a Cleveland weithio eu ffordd ymlaen o'r bwthyn coed i'r Ty Gwyn,—i brif gadair eu gwlad.

Ond i ddod yn nes adref. Y mae cadair arall yn nglyn â'r byd gwleidyddol sydd yn meddu urddas ac awdurdod mawr. Adwaenir hi fel

"CADAIR Y LLEFARYDD,"

neu, cadair Ty y Cyffredin. Nid oes cadair yn Nhy yr Arglwyddi. Esmwythfainc sydd yno, ac y mae y brif eisteddfa yn cael ei galw yn "sâch wlan." Onid yw y geiriau hyn yn dra nodweddiadol o'r lle ac o'i breswylwyr? Cynrychiolwyr y bywyd esmwyth, di-ofalon, y rhai nid ydynt yn llafurio nac yn nyddu, sydd yn cyfarfod yn y Ty hwnnw. Ond y mae awdurdod Ty y Cyffredin,—gweithdy y Wladwriaeth, —yn canolbwyntio mewn cadair. Cadair fawr, uchel, ydyw; y mae digon o le ynddi i hanner dwsin o bobl gyffredin. Ac yn y gadair hon, mewn gwisgoedd swyddogol, gyda pherwig urddasol am ei ben, y mae y gwr a adwaenir fel "Mr. Speaker." Eistedda yn llonydd fel delw, ond y mae ei lygaid yn craffu ar bob ysgogiad. Y mae rheolaeth y Ty wedi ym- gorphori ynddo. A phan gyfyd teimladau yn uchel, pan boetha y ddadl, clywir y gair "chair" yn dygyfor o'r gwaelodion. Dyna breswylydd y gadair yn codi, yn mynegi y ddeddf, a bu tawelwch mawr. Nis gellir treulio noson o'r braidd yn oriel Ty y Cyffredin heb dderbyn argraff ddigamsyniol o'r gallu dystaw, yr awdurdod oruchel sydd wedi eu personoli yn y Gadair.

Nodiadau[golygu]