Cadeiriau Enwog/Cadair Crefydd

Oddi ar Wicidestun
Dadblygiad y Gadair Cadeiriau Enwog

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Cadair Gwleidyddiaeth

PENNOD II.

CADAIR CREFYDD.

Y MAE a wnelo y gadair â chrefydd er yn fore. Nid awn i olrhain y crefyddau paganaidd: digon ydyw crybwyll am grefydd y Beibl,—Iuddewiaeth a Christionogaeth, yr Hen Oruchwyliaeth a'r Newydd. Yr oedd yn y synagog, yn nyddiau yr Iesu, yr hyn a elwid yn "gadair Moses," a mawr oedd y dyhead am dani. "Yn nghadair Moses yr eistedd yr ysgrifenyddion a'r Phariseaid." Nid oes cyfeiriad uniongyrchol ati yn yr Hen Destament. Derbyniodd ei henw drwy draddodiad, am mai Moses ydoedd deddf-roddwr mawr y genedl. Dyna gadair y Rabbi Iuddewig. Ond yn ol tystiolaeth yr Iesu, yr oedd ei hawdurdod wedi diflannu. Cadair wag ydoedd. Nis gallai cadair Moses, fel arwydd gweledig, wneuthur dim.

Wedi hyn daeth Cristionogaeth fel anadl bywyd i fysg yr esgyrn sychion. Ar y cyntaf nid oedd yn perthyn iddi arwyddluniau allanol. Ysbryd a bywyd ydoedd; ond y mae'n rhaid i bob ysbryd wrth ryw gymaint o gorph yn y byd hwn. Ymwisgodd ysbryd Cristionogaeth mewn corph o gymdeithasau, sefydliadau, a swyddogaethau. Ac yn mysg y swyddogaethau hynny, daeth eiddo yr esgob i feddu uwchafiaethesgob Rhufain, Carthage, Alexandria, &c. Perthynai i'r swydd honno ei chadair,—cadair yr esgob; ac mewn canlyniad, daeth yr eglwysi oeddynt yn ganolbwynt mewn talaeth, i gael eu hadnabod fel eglwysi cadeiriol—cathedrals—ac y mae yr enw yn aros hyd y dydd hwn. Yn y rhai'n y mae cadeiriau crefydd yn nglyn â'r Eglwys Sefydledig.

Ond nid ydyw y gadair yn gyfyngedig i Eglwys Loegr. Y mae gan grefydd, yn rhengau yr Anghydffurfwyr, ei chadeiriau lawer. Y mae anrhydedd ac awdurdod y Cyfundebau Ymneillduol yn ymgrynhoi o ddeutu yr arwyddlun hwn. Dyna gadair yr Undeb gan yr Annibynwyr a'r Bedyddwyr; cadair y Conference gan y Wesleyaid; cadair y Gymanfa gan y Presbyteriaid a'r Methodistiaid. Teimlir dyddordeb nid bychan yn yr etholiadau hyn, ac y mae yr anerchiad o'r gadair yn cael edrych arno fel mynegiad o feddwl aeddfed y cyfundeb y bo yn perthyn iddo ar bynciau duwinyddol a chymdeithasol. Ond er mai yr uchod ydyw prif— gadeiriau crefydd, yn y Cyfundebau Ymneillduol, y mae yn weddus crybwyll am gadeiriau eraill sydd yn meddu cryn ddylanwad a swyn.

Dyna gadair y Gymdeithasfa Chwarterol, cadair y Cwrdd Talaethol, &c. A chadair leol dra pharchus, gydag un enwad, ydyw cadair y Cyfarfod Misol. Gwelir ar unwaith nad ydyw Ymneillduaeth mwy na'r Eglwys Sefydledig, yn brin mewn cadeiriau, ac yn ol yr hyn ellid gasglu ar adeg ethol llywyddion, nid oes brinder dynion i'w llenwi. O'r hyn lleiaf, y mae yr awyddfryd am anrhydedd y gadair, boed fechan neu fawr, yn cymeryd meddiant llwyr o lawer.

Dichon y gellid dweyd am rai o'r cadeiriau uchod mai "Treiswyr sydd yn ei chipio hi," ond y maent o fantais, hefyd, i anrhydeddu y sawl sydd wedi gwasanaethu crefydd mewn modd amlwg a helaeth, ac y mae lleygwyr, yn ogystal a gweinidogion, yn etholadwy ac i raddau, yn etholedig i'r naill a'r llall o honynt.

Nodiadau[golygu]