Cadeiriau Enwog/Dadblygiad y Gadair

Oddi ar Wicidestun
Gair o'r Gadair Cadeiriau Enwog

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Cadair Crefydd

CADEIRIAU ENWOG.

PENNOD I.

DADBLYGIAD Y GADAIR.

Tennyson DRO yn ol, ymddangosodd ysgrif yn un o'r cyhoeddiadau hynny sydd wedi eu bwriadu yn arbenig ar gyfer gweithwyr a chrefftwyr ein gwlad, yn dwyn y penawd uchod,—dadblygiad y gadair. Honai yr awdwr nad oes odid ddim

sydd yn dangos gweithrediad deddf dadblygiad yn fwy eglur na'r dodrefnyn cyffredin ac adnabyddus hwn—y gadair. O ran defnydd a ffurf y mae wedi mynd drwy gyfnewidiadau lawer. Arall yw cadair y gegin, ac arall yw cadair y parlwr: arall yw cadair y plentyn, ac arall yw cadair yr henafgwr. Y fath wahaniaeth sydd rhwng cadair galed, gefn—uchel yr amser fu, a chadair esmwyth, glustogaidd, y dyddiau diweddaf hyn. Yr oedd y naill yn syml a diaddurn, a'r llall yn gynyrch celfyddyd ddiwylliedig.

Y mae yr ysgrif y cyfeiriwyd ati yn olrhain y gadair yn ol i'w ffurfiau cyntefig, ac y mae y cwestiwn yn ymgynyg,—Pwy a luniodd y gadair gyntaf erioed? Pwy ydoedd tad y drychfeddwl? Y mae'n eithaf amlwg y dylid ei ystyried yn gymwynasydd i wareiddiad. Yr ydym yn ddyledwyr iddo am un o gysuron penaf ein bywyd teuluaidd a chymdeithasol. Byd rhyfedd i ni, heddyw, fuasai byd heb gadair. Y mae yn un o anhebgorion bywyd. Nis gellir gwneyd hebddi mewn bwthyn na phalas. Ond ymddengys fod enw a hanes yr hwn a roddes fod i'r drychfeddwl, fel llawer dyfais arall, yn gorwedd mewn dirgelwch.

Nid oes neb yn gwybod yn mha gyfnod, neu yn mha wlad yr oedd yn byw. Hyn sydd sicr, —yr oedd yn byw yn lled gynar yn oes y byd, ac yn un o rag—redegwyr ein gwareiddiad. Y mae gwledydd sydd eto heb agor eu llygaid ar y drychfeddwl: nid ydyw cadair yn adnabyddus ynddynt. Ond yn mysg cenedloedd gwareiddiedig y mae y gadair yn bod, ac wedi bod, er's llawer dydd. Sonir am dani mewn llenyddiaeth henafol, ac fe ddywedir fod Plato yn cyfrif y gadair yn mysg y "drychfeddyliau"—yr ideal state. Y mae yn cyflawni rhan bwysig yn mywyd dyn a chymdeithas. Ac yn yr ystyr yna y bwriedir trafod y testyn ar y dalennau sydd yn canlyn. Nid ydym yn abl i draethu ar gelfyddyd y pwnc. Gwyddom fod i gadeiriau. eu hanes yn yr ystyr hwn. Y mae llawer o honynt yn gywreinwaith o'r fath ragoraf; ac y mae pobl sydd yn medru porthi eu chwaeth at y cywrain yn rhoddi eu bryd, yn mysg pethau eraill, ar gasglu cadeiriau o wneuthuriad hynod, a hynny am eu bod yn fynegiad, mewn un wedd, o athrylith gywrain a chelfydd.

Ond ein hamcan syml ni yn bresennol, ydyw son am gadeiriau fel y maent yn delweddu gwahanol agweddau ar fywyd personol a chymdeithasol. Nid y gadair fel dodrefnyn yn gymaint, ond y gadair fel drychfeddwl. Yn yr ystyr hwn, y mae iddi hanes a dylanwad diamheuol, ac ni fu y dylanwad hwnnw un amser yn gryfach nag ydyw yn y dyddiau presennol. Gellir dweyd fod bywyd gwareiddiad yn canolbwyntio mewn cadair. Os sonir am allu meddyliol, y mae hwnnw yn ymgorphori mewn cadair. Os sonir am awdurdod,—y drychfeddwl o lywodraeth a threfn—y mae hwnnw yn cyfarfod yn yr arwyddlun yma—awdurdod y gadair. Os meddylir am anwyldeb a serch teuluaidd, y mae hwnnw, hefyd, yn cronni o gwmpas cadair,—cadair mam a thad, cadair oedd yn orsedd, yn allor, yn esmwythfainc yr un pryd.

Y mae y drychfeddyliau hyn, a llawer mwy, yn cyniwair o gwmpas y testyn. Bellach, rhoddwn dro yn mysg y cadeiriau, gan edrych arnynt fel delweddau o fyd y meddwl, fel arwydd gweledig o ryw ddrychfeddwl ac y mae dyn a chymdeithas yn ei werthfawrogi. Er mwyn rhoddi "terfyn ar y diderfyn," ni a'u dosbarthwn fel hyn:—

I. CADAIR CREFYDD.

II. CADAIR GWLADWRIAETH.

III. CADAIR LLENYDDIAETH.

IV. CADAIR YR AELWYD.

Nodiadau[golygu]