Cadeiriau Enwog/Gair o'r Gadair

Oddi ar Wicidestun
Cynwysiad Cadeiriau Enwog

gan Robert David Rowland (Anthropos)

Dadblygiad y Gadair

GAIR O'R GADAIR.


About the oak that framed this chair, of old,
The seasons danced their round: delighted wings
Brought music to its boughs: shy woodland things
Shared its broad roof, 'neath whose green glooms grown bold,
Lovers, more shy than they, their secret told:
The resurrection of a thousand Springs
Swelled in its veins.

ENW un o ddarnau barddonol Cowper ydyw "Y Dasg." Cafodd ei awgrymu gan un o gyfeillesau y bardd. "Paham nad ydych yn cyfansoddi?" ebai Lady Austen. "Nid oes genyf destyn," ydoedd ateb Cowper. "Mi a roddaf i chwi destyn," ebai hithau, "os ydych yn addaw canu arno." Ac fel y gellid disgwyl i fardd, addawodd yntau wneyd, a hynny cyn gwybod beth ydoedd. "Wel, o'r goreu, cyfansoddwch bryddest ddiodl i'r—sofa." Testyn digon anfarddonol, ynddo ei hun, ond ymaflodd Cowper yn y dasg, a chyfansoddodd farddoniaeth ardderchog—un o gynyrchion goreu ei awen. "I sing the sofa," meddai, ac wrth wneyd hynny y mae yn talu gwarogaeth i'r testyn sydd yn cael ei drafod ar ddalennau y llyfr hwn—y gadair. Dywed fod gwneuthuriad y gadair gyntaf yn gyfystyr a dydd geni Dyfais "the birthday of Invention." Ar y dechreu, nid oedd ond dernyn digon anolygus o gelfyddyd—

"weak at first,
Dull in design, and clumsy to perform."

Ond er fod y dechreu yn syml ac amherffaith, aeth y ddyfais rhagddi nes y daeth y gadair yn ddodrefnyn esmwyth, hylaw a chelfydd. Ac os cafodd Cowper ddefnyddiau barddoniaeth yn y sofa, yr ydym ninnau yn credu y gellir cael defnydd ychydig sylwadau ymarferol mewn cadair. Dyna ein hesgusawd dros alw sylw y darllenydd at "Gadeiriau Enwog," gyda'r amcan o olrhain rhyw gymaint ar eu hanes a'u dylanwad. Nid ydym yn cadw masnachdy dodrefn, ac nid ydyw dirgelion celfyddyd y cabinet—maker wedi eu meistroli genym. Ac nid cadeiriau Eisteddfodol sydd yn benaf o flaen ein meddwl, er fod y rhai hynny yn cael eu cydnabod, yn eu tro, yn mysg y lluaws. Yr ydym, yn hytrach, yn edrych ar gadeiriau yn eu cysylltiad â phersonau, ac â bywyd cymdeithasol.

Y mae "cadair" yn ymadrodd ehang: defnyddir ef am bethau tra gwahanol o ran ffurf a maint—cadair y Gymanfa, Cader Idris, &c. A ydyw "cadair" a "chader" yn eiriau cyfystyr? Dywed Dr. Owain Puw nad ydynt. Y mae cader, meddai ef, yn golygu amddiffynfa, neu gaer, megis Cader Idris, cader Bronwen, &c. Os ydyw yr esboniad hwn yn gywir, y mae yn eglur nas gallwn ddodi "Cader Idris" ar y rhestr sydd yn canlyn; oblegyd â'r "gadair" fel eisteddle, ac nid y "gader" fel amddiffynfa filwrol y mae â wnelom yn bresennol. Fod cader Idris yn un o'r "cadeiriau enwog" sydd anwadadwy, ac y mae Dr. Cynddylan Jones yn ei lyfr diweddar ar "Primeval Revelation" yn rhoddi esboniad tra gwahanol arni i'r eiddo Dr. Puw. Yn ol ei dyb ef, yr oedd Idris yn gyfystyr ag Enoch, y "seithfed o Adda." Ac yr oedd y patriarch hyglod hwnnw, fe ymddengys, yn astronomydd, yn un o rag-redegwyr astronomyddion Caldea. Ac yn gymaint ag nad ydoedd y telescope wedi ei ddyfeisio ar y pryd, yr oedd Enoch a'i gyd-efrydwyr yn cyflenwi y diffyg drwy ddringo y mynyddau, esgyn mor agos i'r nefoedd wybrenol ag oedd yn bosibl. Ac yn ystod yr ymdeithiau hyn, daeth y patriarch rywfodd i Gymru, a chafodd fod y mynydd sydd gerllaw Dolgellau yn lle tra manteisiol i astudio y planedau. Dyna y rheswm iddo gael ei alw, gan oesau dilynol, yn "Gader Idris." Nid amddiffynfa filwrol ydoedd, ond arsyllfa seryddol yn moreu'r byd! Yr ydym yn dweyd. hyn ar awdurdod y "Davies Lecture" am 1896. A chan i mi grybwyll am gader Idris, y mae yn weddus dweyd fod yna gader arall llawer uwch na honno. Yr enw a roddir ar un o'r cydser (constellations) sydd ar gyffiniau y Llwybr Llaethog ydyw "Cassopeia," yr hyn o'i gyfieithu ydyw,—"cader y foneddiges." Dywed chwedloniaeth mai un o frenhinesau Ethiopia ydoedd y foneddiges anturiaethus hon, a osododd ei chader yn mysg ser y nef. Dylai hyn weinyddu cysur i amddiffynwyr y "New Woman." Dyweded doctoriaid Rhydychain a Chaergrawnt y peth a fynont ar y pwnc o roddi "graddau" i'r rhyw fenywaidd, y mae y "ser yn eu graddau" yn cydnabod eu rhagoriaeth. "Cader y foneddiges" ydyw yr uwchaf drwy holl derfynnau Natur fawr!

Ond cadeiriau Natur ydyw y rhai'n, ac am hynny rhaid eu gadael, gyda moesgrymiad gwylaidd, o'r byd isel a ffwdanus hwn. Gadawn y "gader" i rywun arall, a cheisiwn draethu ein dameg am gadeiriau, hen a diweddar. Nid oes dim yn athronyddol nac yn ddyfnddysg yn y sylwadau: ond yr ydym yn dychymygu am ambell ddarllenydd, ar ddiwedd goruchwylion y dydd, yn eistedd yn ei gadair ddewisol, wrth y ffenestr, neu yn ochr y tân, ac yn mwynhau awr neu ddwy mewn dystawrwydd a boddhad, yn nghwmni y cadeiriau hyn, a'r cymeriadau sydd wedi eu gwneyd yn enwog ac yn anfarwol.

YR AWDWR.

Nodiadau[golygu]