Caniadau'r Allt/Aeres y Wern

Oddi ar Wicidestun
Gŵyl Ifan Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Gŵyl y Grôg


AERES Y WERN.

Un wŷs ar fy nghorn yn y bore glas,
A doent am y cyntaf i lawnt y plas,
Uchelwyr y cwmwd o'r Foel i'r Rhyd,
A blodau marchogion y fro i gyd:
Dôi rhai dros y trum, a rhai dros y traeth,
Gyda'u llanciau ffri, a'u gwyryfon ffraeth;
Ond y dalaf a'r decaf o bawb yn eu plith
Oedd aeres y Wern ar ei merlyn brith.

A'r diwrnod o'u blaenau, ymaith a hwy
At farian y Gesail a'r hen ffordd blwy;
A phawb yn ymwrando a'i ben ar dro
Am gri y bytheuaid a'r talihô:
Ac i ffwrdd a hwy eto'n un fintai hir,
A'r cadno 'n eu tynnu ar draws y tir,
Ar duth ac ar garlam, dros fagwyr a gwrych,
A thros y ffrwd letaf a phob carn yn sych:
Ond y flaenaf ohonynt ar lethr a ffrith
Oedd y ferch a farchogai y merlyn brith.

Mae'r cadno fel cynt yn y marian glas,
Ond nid oes ymgynnull ar lawnt y plas;
A hen ydwyf innau, a fum fel yr hydd,
A'm corn ar y pared ers llawer dydd:
Pes canwn yfory, ni ddeuent hwy,—
Mae'u cwsg yn rhy drwm wrth hen lan y plwy:
Mi wn eu bod yno bellach i gyd,
Hen fonedd y Cwmwd o'r Foel i'r Rhyd:
A chofiaf roi'r aeres deg yn eu plith.
A minnau yn tywys y merlyn brith.

Nodiadau[golygu]