Caniadau'r Allt/Cân Coroni'r Bardd

Oddi ar Wicidestun
Yn Nyffryn Clwyd Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Ieuan Gwynedd


CÂN CORONI'R BARDD.

Hawddamor i'n Prifardd dan Goron y Gân,
Boed calon a thafod trwy'n Defod ar dân;
Mae Celtiaid cariadus dwy Ynys yn dod
I olwg y llawryf, y Cleddyf, a'r clod:
Tra bo'r ddawn i ganu yn oreu pob dawn,
A ninnau'n anwylo ein heniaith yn iawn,
Y Bardd yn dywysog eneiniog a wnawn.

Mae'r Cynfeirdd fel engyl yn ymyl yn awr,
A'u llygaid oddeutu 'n pelydru i lawr;
Mae gwreng ac uchelradd trwy'r neuadd yn un,
A'r Cymry ar wasgar yn deyrngar i'w dyn:
Tra byddo Ceninen dan heulwen yn ir,
A thra bo Eisteddfod dan gysgod y Gwir,
Ni chollir dawn Tydain tad Awen o'n tir.

Nodiadau[golygu]