Caniadau'r Allt/Yn Nyffryn Clwyd

Oddi ar Wicidestun
Y Castell Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Cân Coroni'r Bardd


YN NYFFRYN CLWYD.

(Wrth gofio'r Llyfrbryf.[1])

Ni ddaw mwy i dref ei faboed,
Na thrwy 'r dyffryn ar ei dro;
Ac nid etyb mwy i'w enw
Yng nghylch cyfrin barddas bro;
Golud gwlad yw cenedlgarwyr
Craff i weled camp a bai;
Dydd galarnad gwlad yw hwnnw
Pan fo gennym un yn llai.

Cymro oedd o waed ac anian,
Cymro yn ei foes a'i waith;
Carai'n cenedl uwch pob cenedl,
Carai'n hiaith goruwch pob iaith:
Ac er lledu brig ei antur
Cyd yn awyr estron dref,
Gwyddem mai yn naear Cymru
Yr oedd gwraidd ei enaid ef.

Agos at ei feddwl cyfrin,
Agos at ei galon fawr,
Oedd pob peth Cymreig ei hanfod,
O ramantau oes y wawr,
Hyd at chwedlau mwyn dechreunos—
Gwyddai am ein llên i gyd;
Mynnai iddi gymrodoriaeth
Yn anfarwol lên y byd.

Ar aelwydydd lliaws gwerin
Magodd gariad at y gwir;

Nid ei glod oedd peri dolur,
Fel Peredur Baladr Hir:
Ceidw cenedl gof o'i enw,
Gymro pur o wlatgar nwyd,
Tra bo esmwyth ddyfroedd Elwy
Yn bendithio Dyffryn Clwyd.

Nodiadau[golygu]

  1. Isaac Foulkes (Llyfrbryf 1836—1904)