Caniadau'r Allt/Y Castell

Oddi ar Wicidestun
Wele golofn ein tywysog Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Yn Nyffryn Clwyd


Y CASTELL.

Cyfodwyd y castell
Ym min y lli
Gan frenin na charai
Ein cenedl ni.

Nid digon oedd ganddo
Ei dir ei hun
Heb fynnu'n tir ninnau,
A'r ddau yn un.

Ond dewr oedd y Cymry
Yng Nghymru Fu;
Nid ofnent y brenin,
Na'i air, na'i lu.

A deuthant i fyny
O gymoedd gant
Yn erbyn y castell
Yn enw eu Sant.

A da fu i'r brenin,
A da i'w wŷr,
Wrth uchter y tyrau
A thrwch y mur.

Mae'r castell yn aros—
Hen gastell trais—
A'n cenedl yn aros,
Ond ple mae'r Sais?

Nodiadau[golygu]