Neidio i'r cynnwys

Caniadau'r Allt/Cadw'r Oed

Oddi ar Wicidestun
Y Tylwyth Teg Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Eiddilig Gorr


CADW'R OED.

I.


Mi rwyfais dros y Fenai
A'r llwydnos ar y lli,
Am lawer mis a blwyddyn,
Er cadw f'oed â hi.

Nid oedd na thrai na llanw
A'm cadwai yn fy mro,
A'm hannwyl yn fy nisgwyl
Ar rwn y melyn ro.

A fyth ni cheisiwn seren
Na lloer i'm tywys i:
Mordwywn wrth y ffenestr wen
Oedd yn ei hendre hi.

II.


Ni rwyfais dros y Fenai
Ers llawer blwyddyn hir;
A nos pob nos oedd honno
Pan ddaeth fy nghwch i dir.

O, drymed oedd fy nghalon
Uwch llawen ddawns y lli!
Ni allai'r ser na'r lloerwen,
Oleuo'r byd i mi.

Mae'r hendre fyth yn aros,
A'r ffenestr dan y to,
Ond nid yr un yw'r forwyn wen
Sy ar rwn y melyn ro.


III.


Af eto dros y Fenai
Pan ddelo'r wys i mi;
Ac ni bydd trom fy nghalon
Uwch llawen ddawns y lli.

Ar ôl yr hir wahanu,
O fwyned fydd y tro;
Ni all na thrai na llanw
Fy nghadw yn fy mro.

A phedwar cychwr ieuanc
A'm dwg o fin y lli
I erw las yn Ynys Fon,
Er cadw f'oed â hi.

Nodiadau

[golygu]