Caniadau'r Allt/Eiddilig Gorr

Oddi ar Wicidestun
Cadw'r Oed Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Nos Galan


EIDDILIG GORR.

Yng Nghymru gynt, yn oes y glêr,
'Roedd bardd a'i enw Gwlatgar;
Ac ni bu bardd fel hwnnw erioed
Am ganu dawns na galar.

Cyfaredd melys oedd ei gerdd,
Fel distyll pêr canrifoedd;
Nid bardd Eisteddfod, braint, na llys,
Ond bardd ei genedl ydoedd.

A rhwng ei fysedd, telyn fwyn
Fel serch ei hun oedd ganddo:
Ni wyddai neb o ble daeth coed
Na thannau'r delyn honno.

Ond cymaint swyn oedd yn ei llais,
O dan ei fysedd hoywon,
Nes peri chwerthin bob yn ail
Ag wylo ar y galon.

Bob dydd y clywid enw'r bardd
Gan blant, ar fin eu mamau:
A'i gerdd a genid yn y gad
Gan wŷr with fin cleddyfau.

Nid oedd na llanc na rhiain wen
Na wyddai'n dda am dano:
A'i delyn oedd hudoliaeth bro,
Bob tro y deuai heibio.

'Roedd pawb yn caru'r bardd, ond un—
Eiddilig Gorr oedd hwnnw:
Cleryn, wynebddu, cibog, cas,
A'i waed yn fustl chwerw.


Mi glywais ddweud gan widdon hen
Fod iddo yntau delyn,
Ond bod ei thant mor oer, mor gras,
Fel nas mwynheid gan undyn.

Cashâi Cenfigen enw'r bardd,
Ynghwsg a phan oedd effro;
A mynych gais a wnaeth i ddwyn
Ei delyn bêr oddiarno.

Ond wedi'r waedd yng ngwyll y nos,
y bardd a'i gainc a gollwyd;
A holi hir am dano fu
Ar faes, a ffordd, ac aelwyd:

Hyd nes ei caed mewn encil du,
A'i wyneb ar ei ddwyfron,
Heb law na bys, a phaladr hir
Eiddilig yn ei galon.

Nid bardd ei genedl mwyach oedd,
Ond celain oer, a gwaedrudd,
A'i wely'n goch, fel pe bai'r llain
Am wrido dros y llofrudd.

Beth ddaeth o'r delyn? Dywaid coel
Mai angel aeth â honno,
Rhag i'r dialydd yn ei lid
Roi arni droed i'w dryllio.

Ond caed y llofrudd, wedi'r brad,
Uwch ben ei feddwol gwpan;
A mwynach iddo ydoedd rhinc
Ei delyn gras ei hunan.

Nodiadau[golygu]