Caniadau'r Allt/Nos Galan

Oddi ar Wicidestun
Eiddilig Gorr Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Erddygan Hun y Bardd


NOS GALAN.

Liw nos, pan ydoedd lludded
Y dydd ar faes a môr,
A'r dail digartre'n sisial
A'i gilydd gylch fy nôr,
I'm tŷ y daeth pererin
Wynebdlws, er yn hen;
Ei fantell fel y crinddail
A'i wedd rhwng gwg a gwên.

Nid wyt cyn dloted," meddai,
"Na elli drugarhau";
Caruaidd oedd ac unig—
Rhy unig i'w nacáu.
Arlwyais iddo fara
A ffiol oer o ddŵr;
A'm tân o farwor rennais
O gariad gyda'r gŵr.

Nos Galan oedd, a chlychau
Y dref yn canu'n gôr;
Cri arab ar yr heol,
Cri adar ger y môr:
Y gŵr wrandawai arnynt,
A'i lygaid mwyn yn fflam:
A'i wyneb oedd dirionach
Nag wyneb mwynaf mam.

"Sawl bendith rodded atat
Mewn bywyd"? ebe ef;
"Sawl bendith rennaist dithau,
Ag arall, fel y nef?

Gwyn fyd y neb a wnelo
Elusen yn ei dŷ;
Nid â'r drugaredd leiaf
Yn angof gennym fry."

Ei fantell aeth cyn wynned
A'r lloergan ar y môr,
Ac yn fy ymyl safodd,
Cyn mynd trwy'r gaead ddôr:
"Myfi," medd ef, "yw'r angel
A elwir Gwyn-ei-fyd;
A chadw cof yr ydwyf
O gymwynasau'r byd."

"Ymhob rhyw rith y deuaf
Fel ni'm hadnebydd dyn,
A wnel dosturi'n unig
A'm gwêl, fel ti dy hun."
Cyfododd ei adenydd
Fel bendith uwch fy mhen;
Ac arlliw gwaed a welais
O dan ei ddwyfron wen.

Nodiadau[golygu]