Caniadau'r Allt/Calan Mai

Oddi ar Wicidestun
Cwm Pennant Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Camp Llyn yr Onnen


CALAN MAI.

Y gog oedd yn parablu
Ei llediaith yn y llwyn,
A brig y ddwyres berthi
Fel cnu'r ddiadell wyn:
Pob draenen am y decaf,
A'r chwa yn fêl i gyd,
Fel petai'n ddydd priodas
Ar bob rhyw berth o'r byd.

Mi chwerddais gan eu ceined,
Nes daeth i'm cof fod rhai
Na welant wyn y perthi
Ar fore Calan Mai.

Gwyn fyd yr adar cynnar,
O bob rhyw lin ac oed;
Gwyn fyd a'u clywai'n cynnal
Gwylmabsant yn y coed:
Nid oedd yr un na chanai,
O'r awyr neu o lwyn;
Nid oedd yr un na wyddai
Am nyth, mewn gwrych neu frwyn.

Mi chwerddais gan eu llonned,
Nes daeth i'm cof fod rhai
Na chlywant ganu 'r adar
Ar fore Calan Mai.

Eisteddais ar y gamfa,
Yng nghwr y weirglodd las,
A'm calon yn ysgafnach
Na phe bawn aer y plas:

Ac ar y weirglodd honno,
Ymysg y meillion brith,
Mi welais megis enfys
A'i godre yn y gwlith.

'Ro'wn fel un yn breuddwydio,
Nes daeth i'm cof fod rhai
O dan y blodau ffarwel
Cyn bore Calan Mai.

Nodiadau[golygu]