Neidio i'r cynnwys

Caniadau'r Allt/Camp Llyn yr Onnen

Oddi ar Wicidestun
Calan Mai Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Gŵyl Ifan


CAMP LLYN YR ONNEN.

Eisteddai fy nhaid fel arfer
Ar gyfer y tanllwyth mawn;
A'm tad ar y fainc yn ymyl
Yn plethu ei linyn rhawn:
Eu hoffter oedd trin yr enwair
A'r dryfer, fel pawb o'u tras;
A gwyddent am enw pob llyn a maen
O'r pandy i goed y plas.

A dyna fy nhaid yn cychwyn,
Fel ganwaith, i'w heini hynt.
Ar flaen ei gyfoedion cofiadwy,
Tan dalgoed y dyddiau gynt:
A chanddo caem aml ystori
Am gampau fu'n falchter bro;
A champ llyn yr onnen a'r eog mawr
A ddôi fel wrth reddf yn ei thro.

"Ni thwnnai y ser," ebe'r henwr,
Ac nid oedd mo eisiau 'r un ;
Na, dim ond y seren o gotwm
A wnaethem â'n llaw ein hun:
Ni theimlem y tir o tanom,
Wrth weu rhwng cysgodau'r gwydd,
Ysgafnder ieuenctid oedd yn ein gwaed,
A rhyfyg yr oesau rhydd."

'Cyneuwyd y ffagl yn union,
A gwelem y gemwas gwyn,
Cyn loywed â llafn o arian,
Yn llonydd yng nghrych y llyn:

Eis innau i fraich yr onnen,
A threwais trwy ddail y pren,
Nes oedd y deugeinpwys yn torchi'r dŵr,
A'm tryfer fel corn ar ei ben."

Anghofiai ei hun a'i henoed,
A thaniai ei lygaid syn;
Ni wyddech nad ieuanc ydoedd,
Oni bai fod ei wallt yn wyn:
Ac er nad yw'r eog hwnnw
Ers degau mewn llyn na rhyd,
Mae'n fyw a nwyfus ar aml fin nos,
A'm taid yn ei ddal o hyd.

Nodiadau

[golygu]