Caniadau'r Allt/Casglu a Rhannu

Oddi ar Wicidestun
Cyfarch y Wennol Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)


CASGLU A RHANNU.

Ewch i hel briallu
Tan haul y gwanwyn gwyrdd,—
Aed rhai hyd fin yr afon,
A rhai hyd fin y ffyrdd.

Ac yna pan ddowch adref,
Bob un a'i dusw del,
Cewch wynfyd wrth eu rhannu
Nas cawsoch wrth eu hel.

Ewch â swp i rywun
Sydd yn ei dŷ yn glaf,
A'i wefus wen yn holi
Bob dydd am haul yr haf.

Rhowch swp yn llaw yr unig,
Na fedd na châr na brawd;
A swp ar Sul y Blodau
Ar fedd y dyn tylawd.

Nodiadau[golygu]