Caniadau'r Allt/Cyfarch y Wennol

Oddi ar Wicidestun
Y Frongoch Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Casglu a Rhannu


CYFARCH Y WENNOL.

Wennol hoyw, a'r adain loyw,
Merch y llynedd ydwyt ti;
O ba ardal deg y daethost,
Dros sawl mynydd, paith a lli?
Gan nad beth yw enw'r Ynys,
Gan nad beth yw swyn y fro,
Gwn na ellit aios yno,
Wedi i Gymru ddod i'th go.'

Wennol hoyw, a'r adain loyw,
Hoff aderyn hiraeth wyd,
Beth i ti yw tyrau mynor?
Gwell yw gennyt fondo llwyd;
Taeni d'hwyliau i'r deheuwynt
A dychweli fel Cymraes;
Nid yw'r môr i serch ond aber,
Na chyfandir ddim ond maes.

Wennol hoyw, a'r adain loyw,
Croesaw it, bererin haf;
Yn dy nyth o ddaear Cymru
Nid yw'r galon fach yn glaf:
Mwyn i mi yw gweld dy wenfron,
Cyn bod lili ar y llyn;
Mwyn i tithau yw mordwyo
Yn y chwa a'r pelydr gwyn.

Wennol hoyw, a'r adain loyw,
Wedi bod yn alltud hir
Oni elli aros bellach
A gaeafu yn y tir?
Ond os rhaid i ias yr hydref
Oeri 'r cariad at fy mro,
Gydag awel gyntaf Ebrill
Tyred eto ar dy dro.

Nodiadau[golygu]