Caniadau'r Allt/Y Frongoch
← Gardd F'Anwylyd | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Cyfarch y Wennol → |
Y FRONGOCH.
Croesaw iti, frongoch tlws,
Sul y Gwyliau wrth fy nrws,
Hel y briwsion fynnaf iti,
Yr un bach a'r adain wisgi.
Gwyn yw'r rhiniog dan dy droed,
Chwyth gaeafwynt yn y coed,
Ond pa wynt wna'n oer dy gariad
Neu dy chwythu draw o'th henwlad.
Heda'r wennol dros y lli,
Heda'r gwcw gyda hi;
Ond ni chrwydri di i unlle,—
Gwell yw gennyt warchod gartre.
Croesaw iti'r deryn pur
Hawdd dy 'nabod ar y mur;
Coch dy blu yw'r unig dlysni
Sydd yn aros yn y gerddi.
Mae pob rhosyn yn y fio
Wedi gwywo er ys tro,
Ond 'rwyt ti yn gwisgo rhosyn
Ar dy fron bob mis o'r flwyddyn.
Cân pob llinos yn y llwyn,
O dan haul y misoedd mwyn;
Ceni dithau, heb ochenaid,
Pan fo'r barrug ar dy damaid.
Croesaw iti, frongoch tlws,
Cân dy ddyri wrth fy nrws,
Minnau ddof â'r briwsion iti
Nes daw'r haf yn ôl i'r llwyni.