Caniadau'r Allt/Gardd F'Anwylyd

Oddi ar Wicidestun
Iar Fach yr Haf Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Y Frongoch


GARDD F'ANWYLYD.

Hoff yw gan f'Anwylyd
Rodio yn Ei Ardd;
Gwyn ei fyd y lleiaf un
Ynddi hi a dardd.

Os wyf innau yno
O dan brennau'r coed,
Caf yn ieuanc, ieuanc,
Glywed sŵn Ei droed.

Daw i'w Ardd yn fore
Ni all oedi'n hwy;
Er Ei fod yn caru'r byd,
Câr Ei Ardd yn fwy.

Os arhosaf innau
Rhwng rhodfeydd yr Ardd,
Caf yn fynych, fynych,
Weld Ei wyneb hardd.

Hoff o gasglu lili
Yw f'Anwylyd gwyn;
Cariad yw Ei enw Ef,
Casgled fel y myn.

Os y bore cynnar,
Os yr hwyr y daw
Dyged finnau adre'n
Lili yn Ei law.

Nodiadau[golygu]