Caniadau'r Allt/Iar Fach yr Haf

Oddi ar Wicidestun
Y Ffrwd Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Gardd F'Anwylyd


IAR FACH YR HAF.

Iar fach yr haf
O dywed i mi,
Ai chwaer wen y blodau,
Am dro ydwyt ti?

Gwn iti ddod
O erddi y plas,
A siglwyd dy grud
O dan ddeilen las.

Hedfan a wnei
Tra bo haul ar fryn,
Ar ddwy adain fach
Sydd fel sidan gwyn.

Deuaf ar d'ôl
O fore hyd nos,
Ond ni wnaf dy ddal
Y beth fechan dlos.

Nodiadau[golygu]