Caniadau'r Allt/Y Ffrwd
Gwedd
← Yr Enfys | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Iar Fach yr Haf → |
Y FFRWD.
Ffrwd fach loyw min y cae,
Mynd i'r môr ar frys y mae.
Mynd bob dydd tan ganu im,
Suo'r dail heb aros dim.
Mynd bob nos pan gysgaf fi,
Mynd heb oleu ar y lli.
Mynd yn gynt yn nhes yr ha,
Mynd i gyd bryd hynny wna.
Mynd am adre dros y cae
Cyn i'r rhew ei dal y mae.
Rhedaf innau gyda hi,
Am y cyntaf efo'i lli.