Caniadau'r Allt/Yr Enfys

Oddi ar Wicidestun
Y Briallu Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Y Ffrwd


YR ENFYS.

Mae'n awyr las ers meitin,
A dacw Bont y Glaw;
Wel, brysiwn dros y caeau,
A thani law yn llaw.

Cawn eistedd yn ei chysgod,
A holi pwy a'i gwnaeth,
Un pen ar grib y mynydd,
A'r llall ar fin y traeth.

Mae saith o liwiau arni,
A'r rheini'n dlws i gyd;
A gwnaed ei bwa meddir,
O flodau gwyw y byd.

Ond dacw'r Bont yn symud,—
Pwy ŵyr i ble yr aeth?
Nid yw ar grib y mynydd,
Na chwaith ar fin y traeth.

Nodiadau[golygu]