Caniadau'r Allt/Cysegr y Coed
Gwedd
← Melinydd y Pentref | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Ffarwel yr Hwsmon → |
CYSEGR Y COED.
Dos i'r goedlan yn yr Hydref,
Pan fo enfys ar y coed,—
Pan fo'r dail â si'n ymollwng
Yn ddiferlif ger dy droed:
Oni theimli fod edwino,
Yn ei bryd, mor dlws â byw?
Oni weli fod y prennau'n
Cynneu gan ogoniant Duw?
Dos i'r goedlan pan fo Bywyd
Yno'n cynnull lliw a llun,
Ac yn galw ei beraroglau
O'u disberod ato 'i hun:
Oni weli fod medelwr
Rhwng y prennau, hwyr a gwawr,
Gydag esmwyth law yn casglu—
Casglu i'w ysgubor fawr?
Dos i'r goedlan yn yr Hydref,
Pan fo'r lloergan ar y coed,—
Pan fo drysni y cysgodau
Yn teneuo dan dy droed:
Oni theimli fod y ddaear
Fel yn sanctaidd yn y lle?
Oni weli fod ffenestri
Eto'n agor tua'r ne?