Caniadau'r Allt/Melinydd y Pentref

Oddi ar Wicidestun
Aelwyd y Gesail Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Cysegr y Coed


MELINYDD Y PENTREF.

Ger afon Ddwyfor, er cyn co',
Mae melin o liw'r galchen;
Cudynnau 'r eiddew ar ei tho,
A'r mwsogl ar ei thalcen:
Sawl cylchdro roes yr olwyn fawr,
Ni ddichon neb ddyfalu;
Na pha sawl un fu ar ei llawr,
Yn danfon neu yn cyrchu.

'Rwyf fi fy hun yn wyn fy myd,
Tan luwch y blawd a'r eisin,
Ond cael cynhaeaf da o yd,
A dŵr i droi fy melin.

Caiff gŵr y pwn fel gŵr y fen
Bob croesaw dan fy mondo;
Po fwya 'r gwaith, siriolaf Gwen,
A gwaith wyf fi'n ei geisio:
Mil mwynach gennyf, er yn llafn,
Na nablau'r byd a'u canu,
Yw sŵn y pistyll dan y cafn,
A sŵn y meini'n malu.

Rwy'n magu 'mhlant, fel'gwnaeth fy nhad,
Heb dolli mwy na digon;
Rwy'n byw ar yd pob cwr o'r wlad,
Gan rannu peth i'r tlodion.

At dân fy odyn yn eu tro,
Pan fo y ceirch yn crasu,

Fel llanciau fu daw llanciau 'r fro
I'm cadw rhag diflasu:
Eu hwyrnos dreuliant ar y fainc,
Tra pery'r tymor silio;
Bydd un a'i gelf, a'r llall a'i gainc,
A phawb a newydd ganddo.

'Rwyf fi yn fodlon ar fy myd
'Run fath â phob melinydd,
Ond cael cynhaeaf yn ei bryd,
A'r ddeupen at ei gilydd.

Nodiadau[golygu]