Caniadau'r Allt/Gyda'r Wawr
Gwedd
← Nadolig 1916 | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Gwron → |
GYDA'R WAWR.
Gorweddai ger ein llwybr,
Yng ngwawr y bore llwyd;
A llanc o wladwr ydoedd,
O rywle'n Nyffryn Clwyd.
A gwelem yn ei ymyl
Ei gymrawd yn y gad,
Fagesid megis yntau
Ar dyddyn pell ei dad.
Ac er mai ffoi yr oeddem
Am nawdd y gwersyll draw,
Safasom yno ennyd,
A'n helmau yn ein llaw.
Ac yna mynd, a'u gadael
Heb orchudd a heb arch;
A'r llanc a'i ddwylo'n gwlwm
Am fwa gwddf ei farch.