Neidio i'r cynnwys

Caniadau'r Allt/Nadolig 1916

Oddi ar Wicidestun
← Canu'n iach i'r Gog Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Gyda'r Wawr →


NADOLIG, 1916.

Gwn am fro lle nid oes hedd,
Na cherdd o'r tannau tynion;
Ond lle torrir ar y wledd
Gan ru taranau dynion :
Cofia dithau 'r llanciau trist
Sydd am eu tir yn wylo,
Ac yn cadw Gŵyl y Crist
A'r gynnau yn eu dwylo.

Nodiadau

[golygu]