Caniadau'r Allt/Canu'n iach i'r Gog

Oddi ar Wicidestun
Y Cyd-ofid Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Nadolig 1916


CANU'N IACH I'R GOG.

Mi'th welais ddoe ddiwaethaf,
Wrth ymyl camfa'r waun,
A'th lygad ar y glasfor,
A'th adain las ar daen.

A fory byddi 'n cychwyn
O frig y ceubren crin,
Am fro yr aurafalau
A gerddi teg y gwin.

O fyrred fu dy dymor!
Fel doe yw'r bore mwyn
Y'th glywais yn cyweirio
Dy dannau yn y llwyn.

A chanu y buost wedyn
Bob diwrnod ar ei hyd,
Fel pe na bai dorcalon
Na hiraeth yn y byd.

Hyd oni chlywaist siffrwd
Y bladur ar y ddôl;
Hyd oni welaist drannoeth
Yr archoll ar ei hôl.

Ac yna tewi a wnaethost,
A mynd fel finnau'n fud,
Fel pe na bai lawenydd
Na chwerthin yn y byd.

Wel, cyn dy fynd y fory,
Eheda i droed yr allt,
I dorri cainc o redyn.
'Run lliw â phleth fy ngwallt:

A dwg hi yn dy ylfin
O Gymru gyda thi,
A dod hi'n esmwyth, esmwyth,
Ar fedd fy nghariad i.

Nodiadau[golygu]