Neidio i'r cynnwys

Caniadau'r Allt/Y Cyd-ofid

Oddi ar Wicidestun
Dos Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Canu'n iach i'r Gog


Y CYD-OFID.

At borth y plas daeth marchog trist,
Ar ôl y rhuthrgyrch yn y gad;
A mab y castell nid yw mwy,
Ac eiddo pwy fydd tŷ ei dad?
Aeth taw disymwth trwy y llys,
Ac nid oedd neb na wyddai'r pam:
Hir wylai'r iarlles am ei mab,
Ac wylai'r forwyn dros y fam.

At borth y plas daeth gŵr drachefn,
A gair am long yn ddellt gan frad;
A mab y forwyn nid yw mwy.
Fe roes a feddai dros ei wlad:
A bu distawrwydd megis cynt,
A phawb yn gwylio ar ei gam;
Hir wylai'r forwyn am ei mab,
Ac wylai'r iarlles dros y fam.

1915.

Nodiadau

[golygu]