Myfi yw mab y mynydd,
A châr y lluwch a'r gwynt;
Etifedd hen gynefin,
Fy nhad a'm teidiau gynt:
Mae Mot fy nghi a minnau
Y Cymry goreu gaed;
Ein dau o hen wehelyth,
Ac arail yn ein gwaed.
Caed eraill fywyd segur,
A byw ym miri'r dref,
Ond gwell gan lanc o fugail
Gael bod dan las y nef.
Ni wn pa beth yw cysgu
Ond hyd nes torro'r wawr;
A 'molchaf fel y creyr
Yng nghawg y ceunant mawr:
Mae gennyf fil o ddefaid,
Ar lechwedd ac ar ddôl,
A neb ond Mot a minnau
I edrych ar eu hôl.
Caed eraill wisg o sidan,
A'u beio pwy a faidd?
Ond gwell gan lanc o fugail
Gael diwyg fel ei braidd.
Ni fynnwn burach mwyniant
Na charu'r wyn a'r myllt;
Neu lamu dros y marian
Ar ôl yr hyrddod gwyllt;