Caniadau'r Allt/Merch yr Hafod

Oddi ar Wicidestun
Cynnwys Caniadau'r Allt

gan Eliseus Williams (Eifion Wyn)

Mab y Mynydd




I. CANIADAU BYWYD



—————————————

MERCH YR HAFOD.

Adwaenoch ferch yr Hafod,
O ruddin hen y wlad;
Y ddôl yw parc ei phalas,
A'r fuches ei hystâd :
Bob bore daw i'r buarth,
Boed hindda neu boed law,
Y drithroed dan ei chesail,
A'r gunnog yn ei llaw.

Llawenydd bro yw Llio,
A'i gwynfyd, beth a'i pryn,
Wrth fwytho ei morynion,[1]
A godro'r llefrith gwyn.

Ni chyfyd neb cyn gynted
Trwy'r cwm i oleu'r tân;
Gyr droell o fwg trwy'r simdde
Pan ddeffry adar cân:
A dyna'r ddwygainc gyntaf
A leinw'r awel iach—
Y gainc ar lawnt y buarth.
A chainc uchedydd bach.

Llawenydd bro yw Llio,
Ei thympan yw'r ystên;
Myn ganu tra bo'n ieuanc,
Myn ganu pan fo'n hen.

Wrth dorri ar draws y weirglodd
O odro'r buchod blith,

Hi edy lwybyr llaethog
Lle bu'r diferion gwlith:
Gall drin y llaeth a'r 'menyn,
Gall hefyd drin y byd;
Mae gwaddol yn ei dwylo,
Ac iechyd yn ei phryd.

Llawenydd bro yw Llio,
Ac erys gwrid y wawr
Ar ddwyfoch merch yr Hafod
Pan elo'r haul i lawr.

Nodiadau[golygu]

  1. Dull o gyfarch y buchod yn Eifionnydd.