Caniadau'r Allt/Pethau Tlws
Gwedd
← Pleser Plant | Caniadau'r Allt gan Eliseus Williams (Eifion Wyn) |
Y Briallu → |
PETHAU TLWS.
Dacw alarch ar y llyn,
Yn ei gwch o sidan gwyn;
Dyma afal melyn, crwn,—
Anrheg mam i mi yw hwn.
Dacw rosyn ar y pren,
Capan coch sydd ar ei ben.
Dyma faban yn ei grud,—
Perl ei fami—gwyn ei fyd.